Â鶹ԼÅÄ

Faint o waith ysgol ddylwn i ei wneud efo'r plant?

  • Cyhoeddwyd
Plant yn dysgu wrth fwrdd y geginFfynhonnell y llun, Max Mumby/Indigo

Ers cau ysgolion Cymru yn nhrydedd wythnos mis Mawrth mae llawer o rieni wedi bod yn crafu pen, ac efallai'n tynnu gwallt eu pen, ynglŷn â sut i ddelio efo'r cwestiwn o addysg tra mae'r plant adref.

Ydyn nhw i fod i roi gwersi ffurfiol i'w plant? Neu ydyn nhw i fod i beidio â phoeni a chwysu am ffracsiynau, dweud yr amser a gwaith cartref a chanolbwyntio ar roi amser braf, diddorol a diogel i'r plant adref gyda'r teulu?

Gyda phob ysgol yn gwneud pethau'n wahanol, pob math o adnoddau ar y we, gan gynnwys gwersi dyddiol gan Bitesize, ac awgrymiadau yn dod o bob twll a chornel am weithgareddau i'w gwneud gyda'ch plant, gall fod yn ddigon i ddrysu unrhyw riant, yn arbennig rhieni sy'n parhau i weithio adref trwy gyfnod y cyfyngiadau.

Felly beth yw'r gofyniad i rieni gan Lywodraeth Cymru? Gohebydd Addysg a Theulu Â鶹ԼÅÄ Cymru Bethan Lewis sy'n dadansoddi'r cyngor a'r prifathro Ian Jones sy'n rhoi ei farn:

Beth yw'r gofynion addysgol i rieni?

Disgrifiad o’r llun,

Bethan Lewis yw Gohebydd Addysg a Theulu Â鶹ԼÅÄ Cymru

"Does dim disgwyl ail-greu ysgol adre. Hyd yn oed pe bai hynny'n bosib, fe fydd e'n rhyddhad i rieni i wybod mai dyna yw'r safbwynt swyddogol," eglura Bethan Lewis.

"Mae datganiadau'r Llywodraeth wedi ceisio taro cydbwysedd rhwng dweud nad oes angen rhoi gormod o bwysau ar eu hunain tra'n eu hannog i helpu plant i barhau i ddysgu.

"Wrth i'r sefyllfa barhau, mae 'na fwy o bwyslais wedi bod ar yr hyn y gall athrawon a rhieni wneud i gadw'r plant wrthi'n gwneud gwaith ysgol wrth iddi ddod yn amlwg bod y sefyllfa'n parhau am gyfnod estynedig.

Canllaw i rieni

"Ar ddechrau tymor yr haf, ar 20 Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun 'Cadw'n Ddiogel: Dal ati i Ddysgu' - ymgais i geisio cynnig rhywfaint o gysondeb yng nghanol profiadau amrywiol ysgolion a theuluoedd ar draws Cymru.

"Mae 'na sy'n cynnig 'camau syml' i'w dilyn fel ceisio dod o hyd i drefn sy'n gweithio i'r teulu.

"Pan mae'n dod at ddysgu, mae'n argymell neilltuo amser i ddysgu gyda'ch gilydd, tra hefyd annog plant ar adegau i weithio'n annibynnol a pheidio teimlo bod rhaid cyflawni popeth.

"Yn ogystal mae'n sôn am siarad â phlant am yr hyn mae nhw'n ei ddysgu a cheisio dod o hyd i rywle tawel iddyn nhw weithio.

"Cyngor synhwyrol efallai ond nid y manylder o ran faint o oriau a thasgau ddylai plant fod yn cwblhau y byddai rhai rhieni yn awyddus i'w gael, tra y bydd eraill yn gweld y "camau syml" yma yn ddigon heriol.

Gwahanol amgylchiadau

"Mewn gwirionedd, mae'n anodd gweld sut fyddai modd gosod cyfarwyddiadau manwl fyddai'n adlewyrchu ystod oedran plant ac amgylchiadau gwahanol deuluoedd.

"Mae rhai rhieni yn dal i orfod gadael y cartref i wneud eu swyddi a rhai ysgolion ar agor i gynnig gofal plant, ond nid addysg ffurfiol.

"Ac mae cyfran fawr o'r rhieni sydd adref gyda'u plant yn parhau i weithio ac yn methu rhoi sylw drwy'r dydd bod dydd i dasgau addysgiadol.

"I deuluoedd eraill, mae amgylchiadau heriol o bob math yn rhwystr enfawr i unrhyw fath o ddysgu.

"Yn y pen draw, does dim disgwyl chwaith i rieni gael yr atebion i gyd - troi at yr ysgol ac athrawon am arweiniad yw'r cyngor o hyd."

Y farn o'r ysgol

Felly oes ots os nad yw'ch plant wedi cyflawni unrhyw ddysgu ffurfiol ac wedi trin y cyfnod yma fel gwyliau haf estynedig, cynnar?

Mae Ian Jones, pennaeth Ysgol San Siôr yn Llandudno, yn dweud mai cadw mewn cysylltiad yw'r peth pwysicaf i rieni ar hyn o bryd.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n dibynnu am ba mor hir mae hyn yn mynd ymlaen... am gyfnod bach dwi ddim yn mynd i fod yn poeni yn ormodol os nad ydi plant heb wneud gwaith swyddogol," meddai Mr Ian Jones, prifathro Ysgol San Siôr

Fel ysgol sy'n defnyddio byd natur i addysgu ei disgyblion mae wedi rhoi hadau i'r plant eu plannu adref ac ŵy gwyfyn i bob disgybl ofalu amdano adref yn ogystal â thasgau mwy ffurfiol, ond nid yw'n poeni'n ormodol os nad yw'r rhain i gyd cael eu cyflawni.

Ond gallai pethau newid.

Dibynnu pa mor hir

"Mae'n dibynnu am ba mor hir mae hyn yn mynd ymlaen," meddai Mr Jones.

"Ysgol gynradd ydyn ni ac ar hyn o bryd y peth pwysig ydi fod y plant yn mwynhau'r amser efo'r teulu. Iawn, os ydyn nhw'n gwneud ychydig o arddio er enghraifft - 'dan ni wedi rhoi hadau llysiau a blodau i'r plant - dwi ddim yn mynd i fod yn poeni yn ormodol os nad ydi plant heb wneud gwaith swyddogol, am gyfnod bach.

"Ond os ydi'r cyfnod yma yn mynd yn hirach, yna fydd yn rhaid i'r plant wneud rhywfaith o weithgareddau.

"Ond dydyn ni heb ddod ar draws y broblem yna ar hyn o bryd. Mae'n rhieni ni wedi croesawu y math o waith 'dan ni wedi ei gynnig, drwy ddweud diolch bod o ddim yn waith swyddogol, does 'na ddim gofynion statudol i chi wneud y gweithgareddau yma."

Y peth pwysicaf, meddai Mr Jones, yw cadw mewn cysylltiad gyda'r athrawon. Os nad yw plentyn neu riant wedi bod mewn cysylltiad yna bydd yr ysgol yn rhoi caniad i weld bod popeth yn iawn, meddai, a chynnig help os oes angen.

Disgrifiad o’r llun,

Gall fod yn anodd helpu plant gyda'u haddysg os yw'r rhieni yn gweithio

"Mewn sefyllfa efo dau riant yn gweithio mae'n anodd iawn iddyn nhw roi eu hamser ella' a mae 'na beryg i'r plant fod o flaen y cyfrifiadur neu'r teledu rhwng 8 o'r gloch y bore a 5 o'r gloch y p'nawn.

"Ond rydan ni'n checio fewn i weld sut mae pethau'n mynd."

I rieni sydd wedi dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd, mae'r ysgol wedi cynnig i'r plant ddod i mewn am fore neu brynhawn i roi seibiant ac i'w rhoi ar ben ffordd.

"Graddol" fydd y dychwelyd i'r ysgol yn ôl Gweinidog Addysg Cymru Kirsty Williams, felly mae'n debyg bod wythnosau eto i ddod i rieni o ran ceisio canfod beth sy'n gweithio orau iddyn nhw tra mae'r plant adref.

Hefyd o ddiddordeb: