鶹Լ

Sut i helpu plant ymdopi heb ysgol?

  • Cyhoeddwyd
Gwersi ukelele newydd Mei Gwynedd i blantFfynhonnell y llun, Mei Gwynedd/Youtube
Disgrifiad o’r llun,

Gwersi ukelele newydd Mei Gwynedd i blant

Dyw hi ddim yn glir eto pryd fydd ysgolion Cymru yn ailagor wedi i'r drysau gau i filoedd o ddisgyblion ddydd Gwener oherwydd y coronafeirws.

Mae rhieni ar draws y wlad yn ansicr sut y byddan nhw'n ymdopi, ac yn ceisio cael syniadau am sut i ddiddanu neu addysgu eu plant yn y tŷ am gyfnod amhenodol.

Mae sefydliadau fel S4C wedi cyhoeddi cynllun i gynnig mwy o adnoddau addysgol i blant gyda 'Ysgol Cyw.'

Ond mae llu o bobl, nifer yn rhieni eu hunain, wedi cynnig cymorth a syniadau am sut i lenwi'r oriau mewn modd adeiladol.

Gwersi ukelele

Mae'r cerddor Mei Gwynedd yn dweud y bydd yn dechrau gwersi ukelele i blant ar ei sianel youtube bob bore Mawrth a bore Iau.

Yn dad i ddwy o ferched, mae'n dweud ei fod eisiau helpu rhoi strwythur i'r diwrnod.

"Dwi'n meddwl dylia miwsig fod ar gael i bawb," meddai, ac mae'n ceisio sicrhau cyllideb i osod is-deitlau er mewn helpu teuluoedd di-Gymraeg i ddilyn y gwersi.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mei Gwynedd

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mei Gwynedd

Gwersi arlunio

Mae'r arlunydd Huw Aaron yn dweud y bydd yn cynnig gwersi rheolaidd gyda syniadau ac awgrymiadau am greu campweithiau creadigol gyda'ch plant yn y tŷ dros y misoedd nesaf.

"Gobeithio bydd pum neu ddeg munud y dydd o ddilyn cyfarwyddiadau am sut i arlunio mwncïod neu robotiaid neu penolau yn help bach iawn i rai o'r teuluoedd yna fydd yn gweld dyddiau hir, gwag, yn ymestyn o'u blaenau am bwy â ŵyr pa hyd."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan 𝙷𝚞𝚠 𝙰𝚊𝚛𝚘𝚗

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan 𝙷𝚞𝚠 𝙰𝚊𝚛𝚘𝚗

Mae'n dweud ei fod yn poeni am deuluoedd di-Gymraeg.

"Falle byddan nhw'n sylweddoli dros yr wythnosau nesaf cymaint maen nhw'n dibynnu ar yr ysgol i roi'r iaith i'w plant.

"Ac os nad oes deunydd diddorol, hwyl ar gael i'w plant yn y Gymraeg, efallai na fyddan nhw'n clywed rhyw lawer o gwbl am… fisoedd?"

Gwersi Cymraeg

O ddydd Llun ymlaen mae Say Something In Welsh yn lansio gwasanaeth newydd i rieni i'w helpu i gadw sgiliau Cymraeg eu plant yn gryf dros y misoedd nesaf.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 3 gan Aran Jones

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 3 gan Aran Jones

Dywedodd Aran Jones o'r cwmni "Bydd 'na ryw ddau funud o wers ar y ffôn a fideo bach ar ein gwefan."

"Dwi'n ei gadw o'n reit fyr a 'dan ni'n gobeithio bydd teuluoedd yn cael dipyn o hwyl yn ei neud o."

Erbyn hyn, mae 'na gynlluniau i gael fersiwn Ffrangeg, Sbaeneg, Eidaleg, Slofeneg ac Esperanto hefyd.

Cadw'n heini dros y we

Bydd Lleucu Ifans o Ddihewyd yng Ngheredigion yn llywio rhaglen 'Actifiti' sy'n cynnig gwasanaeth newydd i helpu plant gadw'n ffit.

Mae'n bwriadu cyhoeddi fideo newydd bob dydd ar ei thudalen facebook yn annog pawb i symud tua 13:00 y prynhawn.

"Os deith rhywbeth positif mas o hyn, mwy o blant yn cael chwaraeon yn rhan o'u bywydau bob dydd fydd hynny," medd Lleucu.

"Rwy jyst eisiau cadw pawb i symud, nid jyst y plant."

Ffynhonnell y llun, Lleucu Ifans
Disgrifiad o’r llun,

Lleucu Ifans gyda brodyr bach ei chariad.

Yn un o deulu mawr, mae'n dweud ei bod wedi sefydlu ei chwmni chwe mis nôl a nawr yn gorfod ailystyried sut i wneud arian.

Bydd hi'n cynnig fideos hirach i danysgrifwyr, ond mae'n dweud y bydd y fideos byr am ddim.

"Fi'n sylwi mae sawl un yn yr un cwch â fi o ran colli incwm," meddai, "a dyw hi dim yn deg i charjo pobl am rywbeth mae plant ei angen.

"Ma' rhaid i ni ga'l pawb i symud tra'n bod ni'n stuck yn y tŷ am amser hir, falle. "

Egluro coronafeirws i blant pryderus

Seicolegydd plant o Golombia a gynhyrchodd y Covilyfr gwreiddiol - llyfr i geisio helpu plant i ddeall perygl y coronafeirws heb godi gormod o ofn arnyn nhw.

Pan welodd dwy fam o Gaerdydd y pamffled, yr artist, Lowri Davies a'r cyfieithydd, Ffion Bourton, fe benderfynon nhw holi am ganiatâd Manuela Molino i ddatblygu fersiwn Gymraeg.

Ffynhonnell y llun, Lowri Davies/Manuela Molina
Disgrifiad o’r llun,

Llyfryn 'Covilyfr' Manuela Molina i helpu plant ddeall y coronafeirws

Dywedodd y cyfieithydd Ffion Bourton: "Mae o'n syml, a'r graffics yn dda ac mae'n rwbath mae plant yn uniaethu efo fo.

"Mae rhai plant yn pryderu fwy nag eraill. Mae hwn ar gael rŵan i rieni fel adnodd, os ydi plentyn yn dechrau gofyn cwestiyna'. Os 'di o'n helpu dim ond un person, mae o werth o."

Mae'r ddwy wedi rhannu'r llyfryn ar wefannau cymdeithasol ac mae Manuela wedi'i gyhoeddi ar ei gwefan ar y cyd â'r fersiynau mewn ieithoedd amrywiol ar draws y byd.

Ffynhonnell y llun, Driftwood Designs
Disgrifiad o’r llun,

Lluniau lliwio newydd Lizzie Spikes

Lliwio - a Lego

Mae'r artist Lizzie Spikes wedi creu darluniau lliwio newydd i'w lawrlwytho am ddim o wefan ei chwmni.

Ac mae mam o Gaerdydd wedi datblygu'r Her Lego.

Mae'r daflen yn herio plant i adeiladu creadigaethau Lego gwahanol bob dydd.

Ffynhonnell y llun, Branwen Gwyn
Disgrifiad o’r llun,

Her Lego

"Mae'n rhywbeth sy'n gallu bod yn rhan o drefn ddyddiol plant dros y mis nesaf sy'n hwyl ac yn addysgiadol," medd Branwen Gwyn, mam i ferch yn Ysgol Hamadryad, Grangetown.

"Mae llywodraethwyr Hamadryad yn cynnig gwobr hael o set Lego i'r ymdrech orau sy'n cael ei rhoi ar Twitter."

Mae Branwen hefyd wedi'i chymell gan deimlad bod angen adnoddau ar gyfer plant o gartrefi di-Gymraeg.

"Mae criw ohonom ni wedi dod at ein gilydd i helpu rhieni di-Gymraeg yr ysgol, ac yn bwriadu dechrau 'Amser Stori' ar grŵp WhatsApp arbennig bob nos," meddai.