Â鶹ԼÅÄ

Realiti hunan-ynysu gyda’r plant

  • Cyhoeddwyd
Catrin Lliar Jones a'i phlantFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Tra bod y gwefannau cymdeithasol yn llawn straeon o rieni yn gwneud bob math o bethau difyr i addysgu eu plant tra bod yr ysgolion ar gau, mae'r realiti yn dra gwahanol yn ôl Catrin Lliar Jones, sy'n byw ger Rhosgadfan, Caernarfon, ac yn fam i ddau o blant.

Disgynnodd rhyw anfadwch ar y tÅ· 'ma b'nawn Llun, 9 Mawrth - tymheredd uchel, cur pen, peswch, dolur gwddw. Roedd tri allan o bedwar ohonom yn afiach.

Yn anffodus, bu efe ar ambell daith gwaith i'r De yn ystod mis Chwefror, felly roedd rhaid hunan-ynysu a pheintio croes ddu ar y drws ffrynt.

Cymysgedd o froncitis ac annwyd pen oedd o'n y diwedd medda nhw, ac wedi cwrs o wrthfiotigau roedden ni rêl bois. Ond dyma sut rydym ni bellach ar ein trydedd wythnos o lockdown.

'Sa chi'n meddwl felly, gan ystyried mod i wedi ennill y blaen ar bawb, mod i'n gwneud yn dda.

Wel, dychmygwch dÅ· efo bara ffres yn popty, siartiau llwyddiant plant ar y wal, taflenni mathemateg wedi cwblhau, a phatsh bach yn yr ardd wedi plannu efo rhesi taclus o letys a moron - nid ein tÅ· ni ydi hwnnw.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Coginio - dim ond un o'r pethau sydd angen ei wneud rhwng gweithio, bod yn rhiant ac addysgu'r plant

'Nes i ddechrau'n dda. Sicrhau archebion o'r archfarchnad, prynu weips gwrth-facterol a chael torri fy ngwallt. Ond pan ddaeth yr archeb gyntaf, heb win, heb lefrith ond rhywsut gyda 36 pecyn o greision, ro'n i'n amau nad o'n i am lwyddo i fod mor drefnus ag oeddwn wedi gobeithio.

Erbyn diwrnod tri o'r ail wythnos, roedd croen fy nhin ar fy nhalcen a dregs gwirodydd 'Dolig o'r poteli llychlyd yng nghornel y gegin yn araf ddiflannu. Roedd y plant 'di bwyta brechdanau caws a ham i ginio pob dydd ers iddyn nhw fod adra o'r ysgol, a do'n i'm yn cofio pryd oedd y tro diwetha' iddyn nhw gael cawod.

Trist a blinedig

'Da chi'n gwybod sut ma' hi, mi rydach chi'n drist, yn ofnus ac wedi blino'n lân. 'Da chi'n trio gweithio o adra. Mae'r plant 'di ffraeo dros Minecraft - eto, ac mae'r gorbryder yn gwaethygu.

Mae'n amser i'r ci gael tabledi llyngyr, does 'na'm petrol yn y car, ac mi ryda chi 'di bod ar Facebook ers chwech y bore, yn dadlau efo dyn o'r Wirral am ei fod yn mynnu mynd i Ddinas Dinlle am y penwythnos.

Ond 'da chi wedi addo bod ar gael i'ch modryb/cymydog/rhieni. Maen nhw i gyd angen bara a llefrith, ma' rhai angen presgripsiwn a tydi'r ffôn ddim wedi stopio canu.

'Dw i'n meddwl mai'r peth wnaeth fy ngyrru dros y dibyn yn diwedd oedd y ddynes yn ne Lloegr oedd wedi adeiladu iglw geometrig, enfawr allan o gardfwrdd i'w phlant yn eu hystafell fyw.

Chwara' teg iddi hi, 'nath hi'm ei adeiladu fo i godi cywilydd arna'i, ond ar adeg fel hyn, does 'na'm llawer o bethau 'neith wneud i chi deimlo'n fwy ansicr fel rhiant, na phlant rhywun arall yn gwneud tasgau darllen a deall yn hapus mewn iglw cardfwrdd efo fairy lights, tra'n bwyta ffyn moron… a bod yn glên efo'i gilydd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dim iglw cardfwrdd, ond digonedd o awyr iach i Angharad, 11, a Beuno, 9

Melltith gwefannau cymdeithasol

I ddweud y gwir, dylwn i ddim fod wedi treulio oriau ar Facebook yn syllu ar becynnau dysgu trawsgwricwlaidd, llofftydd sbâr wedi eu troi yn stiwdios cerddoriaeth, lluniau o blant wedi crosio blancedi, a rhai hyd yn oed wedi dysgu sut i lifio coed er mwyn gwneud bocsys nythu lliwgar. O, a pheidiwch â sôn am y bwyd - lle ar y ddaear mae pawb yn cael yr holl flawd 'ma?

Ond dyna nes i.

'Dw i'n siŵr y gwnaf innau hefyd, mewn amser, ffeindio fy mojo. Un diwrnod, bydd mwy i mi na phrydau rhewgell, jôcs am rechen, digestives siocled i bob pwdin a gwylio fideos doniol YouTube o bobl yn disgyn drosodd.

Mae'n iawn i ni gyd gymryd bach o amser i ffeindio'n traed wrth droedio'r tir newydd 'ma, tydi? Wedi'r cyfan mae 'na wythnosau o ymdopi o'n blaenau ni.

Os rhowch chi'r hawl iddynt, bydd gwefannau cymdeithasol yn siŵr o wneud i chi deimlo fel rhiant gwael, yna byddwch wedi colli cyn dechrau.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Beuno ac Angharad

Rhannwch gariad a chwerthin. Gwyliwch ffilmiau. Arhoswch i fyny yn hwyr, a threuliwch ddiwrnodau hir mewn onesies. Chwaraewch gerddoriaeth a chanwch yn uchel. Rhannwch jôcs gwael ac ambell fath llawn swigod.

Pan fydd hyn drosodd a ninnau'n edrych nôl ar y cyfnod yma wnaeth fygwth siglo'n seiliau ni, y peth bydd ein plant yn cofio, ydy sut 'nathon ni eu cadw nhw'n hapus a diogel, nid y gwersi algebra... a na, does dim rhaid i'r un ohonom ni ddysgu sut i grosio.

Hefyd o ddiddordeb: