Cap cyntaf i'r prop WillGriff John yn erbyn Yr Alban

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Cafodd WillGriff John ei alw i garfan Cymru am y tro cyntaf ar gyfer y Chwe Gwlad eleni

Bydd prop Sale, WillGriff John yn ennill ei gap cyntaf i Gymru wrth iddyn nhw groesawu'r Alban i Stadiwm Principality brynhawn Sadwrn.

Mae pedwar newid i'r tîm gafodd eu trechu gan Loegr yn Twickenham ar gyfer gêm olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Bydd y mewnwr Rhys Webb yn dechrau ei gêm gyntaf dros ei wlad ers bron i ddwy flynedd a hanner, gan gymryd lle Tomos Williams.

Mae clo'r Dreigiau, Cory Hill yn cymryd lle Jake Ball oherwydd anaf, tra bod Wyn Jones yn dychwelyd i'r tîm yn lle Rob Evans.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd Alun Wyn Jones yn dod yn gyfartal â'r record am y nifer fwyaf o gapiau rhyngwladol ddydd Sadwrn

Fe fydd y capten, Alun Wyn Jones yn dod yn gyfartal â record Richie McCaw o Seland Newydd am y nifer fwyaf o gapiau rhyngwladol, wrth iddo ennill ei 148fed cap.

Bydd Jones yn ennill cap rhif 139 dros Gymru ddydd Sadwrn, ac mae wedi gwneud naw ymddangosiad i'r Llewod hefyd.

Y gêm rhwng Cymru a'r Alban yw'r unig un sy'n mynd yn ei blaen yn y gystadleuaeth y penwythnos hwn, wedi i'r gemau yn Ffrainc a'r Eidal gael eu gohirio.

Tîm Cymru

Leigh Halfpenny; George North, Nick Tompkins, Hadleigh Parkes, Liam Williams; Dan Biggar, Rhys Webb; Wyn Jones, Ken Owens, WillGriff John, Cory Hill, Alun Wyn Jones (capt), Josh Navidi, Justin Tipuric, Ross Moriarty.

Eilyddion: Ryan Elias, Rhys Carré, Leon Brown, Will Rowlands, Taulupe Faletau, Gareth Davies, Jarrod Evans, Johnny McNicholl.