Â鶹ԼÅÄ

Chwe Gwlad: Lloegr 33-30 Cymru

  • Cyhoeddwyd
CaisFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Cais gofiadwy Justin Tipuric ar ôl 27 eiliad o'r ail hanner

Mae ymgyrch siomedig Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi cael ergyd pellach ar ôl colli yn erbyn Lloegr yn Twickenham.

Fe ildiodd Cymru ddau gais yn yr hanner cyntaf - Anthony Watson yn sgorio ar ôl 5 munud ac yna, ar ôl 34 munud, Elliot Daly yn sgorio ail gais Lloegr.

Fe gafodd Gymru adfywiad yn y munudau olaf - a dau gais hwyr iawn -ond roedd hi'n rhy hwyr i ennill y gêm.

Roedd gan y Saeson fantais o 20-9 ar yr egwyl, ciciau cosb Dan Biggar a Leigh Halfpenny yn cadw'r Cymry o fewn cyrraedd.

Yn gynnar iawn yn yr ail hanner fe groesodd Justin Tipuric o dan y pyst ar ôl cyfnod o chwarae gwefreiddiol.

Ond fe ddaeth trydydd cais i Loegr - Manu Tuilagi yn croesi yn ddiwrthwynebiad ar ôl cyfnod o chwarae grymus gan Loegr.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Cais allweddol Tuilagi yn adfer rheolaeth o'r gêm i Loegr

Roedd 'na gyfnodau o chwarae ymosodol da gan Gymru yn yr ail hanner ond fe gadwodd Lloegr reolaeth ar y gêm, er gwaethaf cerdyn coch i Tuilagi am dacl beryglus ar George North.

Yn ystod y munudau olaf roedd Lloegr yn chwarae â 13 dyn ar ol i Ellis Genge gael cerdyn melyn.

Fe fanteisiodd Cymru â dau gais hwyr - trosgais i Dan Biggar cyn i Tipuric sgorio ei ail gais yn yr eiliadau olaf.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru wedi colli tair gem yn olynol, ac mae tîm hyfforddi newydd Cymru o dan bwysau mawr i guro'r Alban dydd Sadwrn nesaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cerdyn coch i Tuilagi ar ôl tacl beryglus ar George North