Â鶹ԼÅÄ

Prop Lloegr, Joe Marler i wynebu achos disgyblu

  • Cyhoeddwyd
Marler a JonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Joe Marler yn wynebu achos disgyblu gan yr awdurdodau rygbi ar ôl i gapten Cymru Alun Wyn Jones gwyno bod Marler wedi gafael yn ei organau rhyw.

Ar ôl y gêm yn rhwng Lloegr a Chymru dydd Sadwrn fe ddywedodd capten Cymru y dylai'r awdurdodau edrych ar y digwyddiad, lle'r oedd hi'n ymddangos fod prop Lloegr wedi gafael yn ei organau rhyw.

Mewn datganiad dywedodd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad bod Marler "wedi ei gyhuddo o dorri rheol 9.27 (ni ddylai chwaraewr... afael, neu wasgu'r organau rhyw)".

Bydd gwrandawiad disgyblu yn cael ei gynnal yn Nulyn ddydd Iau.

Fe allai Marler wynebu gwaharddiad o rhwng 12 a 208 wythnos.

Mae Courtney Lawes wedi ei gyhuddo hefyd o drosedd yn ystod yr un gêm - mae Lawes wedi ei gyhuddo o fod yn gyfrifol am dacl beryglus.