Drakeford: 'Effaith coronafeirws i'w deimlo am nifer o wythnosau'

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Mark Drakeford y gallai'r haint roi "straen enfawr" ar wasanaethau cyhoeddus

Bydd effaith coronafeirws yn cael ei deimlo "dros nifer o wythnosau", yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Dywedodd Mark Drakeford y gallai hyd at 80% o boblogaeth Cymru gael coronafeirws ond mai dyna fyddai'r "sefyllfa waethaf, realistig", ac y byddai hynny'n cynnwys staff meddygol.

Ychwanegodd y gallai'r haint roi "straen enfawr" ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn enwedig ar y gwasanaeth iechyd.

Yn ôl y Prif Weinidog bydd cynlluniau'n cael eu rhoi mewn lle i ddelio gyda'r effaith posib ar addysg blynyddoedd cynnar.

Dim ond chwe achos o Covid-19 sydd wedi'u cadarnhau drwy Gymru hyd yn hyn.

'25% angen sylw sylweddol'

Yn ymateb i gwestiwn yn y Senedd dydd Mawrth dywedodd Mr Drakeford: "Pe bai'r sefyllfa waethaf, realistig yn dod i'r amlwg ble mae gan 80% o'r boblogaeth coronafeirws a 25% o'r boblogaeth angen sylw meddygol sylweddol, mae hynny am roi straen enfawr ar ein holl wasanaethau cyhoeddus gan gynnwys y gwasanaeth iechyd.

"Bydd pobl sy'n gweithio i'r gwasanaeth iechyd yn cael eu heffeithio gan y feirws fel pawb arall, felly byddwn ni'n wynebu sefyllfa ble mae llawer mwy o alw a straen gwirioneddol ar y bobl sydd ar ôl i'w gyflenwi."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Rebecca Evans y dylai'r swm o arian sy'n cael ei roi i Gymru i ddelio â'r ffeirws adlewyrchu'r boblogaeth hŷn

Dywedodd Mr Drakeford bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd er mwyn "adnabod y cynlluniau all gael eu rhoi ar waith a'r adnoddau sy'n gallu cael eu darparu".

"Ond nid gwelyau yn unig fydd yr adnoddau hynny - bydd pobl ar gael i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen, ac mewn sefyllfa ble mae 25% o'r boblogaeth yn wael iawn bydd yn cael effaith ar y rheiny sy'n darparu'r gwasanaeth yn ogystal," meddai.

Dywedodd y Prif Weinidog eu bod hefyd yn gweithio ar gynllun i ddelio â diffyg staff i addysg blynyddoedd cynnar.

Awgrymodd y byddai'n rhaid newid y rheolau er mwyn galluogi staff i ofalu am fwy o blant na'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd.

"Os oes yna lai o bobl ar gael i weithio oherwydd coronafeirws efallai y bydd rhaid i ni fod yn fwy hyblyg gyda'r ffigyrau statudol," meddai.

Ffynhonnell y llun, BCUHB

Disgrifiad o'r llun, Uned brofi gymunedol yn Ysbyty Alltwen, Porthmadog

Dywedodd gweinidog cyllid Cymru, Rebecca Evans wrth y Senedd yn gynharach y dylai'r swm o arian sy'n cael ei roi i Gymru i ddelio â'r ffeirws adlewyrchu bod y boblogaeth yma yn hŷn na gweddill y DU.

Fe ddaeth sylwadau Ms Evans wedi iddi gwrdd â gweinidogion y DU cyn cyhoeddi'r gyllideb ddydd Mercher.

Dywedodd hefyd bod nifer y swyddi gweithgynhyrchu yng Nghymru yn golygu bod llawer o bobl methu gweithio o adref.

Agor unedau profi

Mae unedau profi newydd wedi agor yn y gogledd a'r gorllewin i ddelio gyda'r cynnydd disgwyliedig mewn achosion dros yr wythnosau nesaf.

Mae'r unedau gyrru-i-mewn wedi cael eu sefydlu yng Nghlinig yr Orsedd (Rossett) yn Wrecsam, Ysbyty Bryn y Neuadd yn Llanfairfechan, ac Ysbyty Alltwen ym Mhorthmadog.

Mae unedau tebyg wedi agor yn Aberteifi a Chaerfyrddin, ond nid yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyhoeddi'r union leoliadau oherwydd "yr angen i amddiffyn cyfrinachedd cleifion... ac ar gyfer diogelu ein staff ein hunain".

Dim ond cleifion sydd wedi cael asesiad cychwynnol drwy'r gwasanaeth ffôn 111 ac sydd wedi cael apwyntiad fydd yn cael eu profi yn unrhyw un o'r unedau.