Yr Arglwydd Bourne yn ymddiswyddo o lywodraeth Johnson

Disgrifiad o'r llun, Yr Arglwydd Bourne oedd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad rhwng 1999 a 2011

Mae'r Arglwydd Nick Bourne wedi ymddiswyddo o lywodraeth Boris Johnson mewn protest yn erbyn y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb.

Roedd yr Arglwydd Bourne yn weinidog yn Swyddfa Cymru ac yn Adran Llywodraeth Leol, Tai a Chymunedau.

Dywedodd iddo dderbyn cais i barhau yn y ddwy rôl, ond mai hwn oedd y tro cyntaf yn ei fywyd iddo ymddiswyddo.

Yr Arglwydd Bourne oedd arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad rhwng 1999 a 2011.

Daeth ei gyhoeddiad wrth i'r prif weinidog newydd, Boris Johnson, barhau i benodi gweinidogion i'w lywodraeth newydd ddydd Gwener.

'Ymddiswyddo am y tro cyntaf'

Mae Kevin Foster, AS Torbay, wedi cadw ei swydd fel is-weinidog yn Swyddfa Cymru a Swyddfa'r Cabinet.

Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad ar Twitter dywedodd yr Arglwydd Bourne: "Rwyf wedi ymddiswyddo am y tro cyntaf yn fy mywyd a hynny o swydd o'n ni'n ei charu a mwynhau, a swydd oeddwn i newydd gael cynnig i'w wneud unwaith yn rhagor.

"Ond ni allaf dderbyn dim cytundeb ar 31 Hydref ac felly rwy'n gadael."

Roedd yr Arglwydd Bourne yn AC Canolbarth a Gorllewin Cymru tan iddo golli ei sedd yn etholiad 2011.

Yn gynharach yn yr wythnos fe gafodd Alun Cairns ei ail-benodi yn Ysgrifennydd Cymru yng nghabinet Mr Johnson.