Â鶹ԼÅÄ

Drakeford: Ceidwadwyr 'wedi gadael y tir canol'

  • Cyhoeddwyd
Boris JohnsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Boris Johnson yn dweud y bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn 31 Hydref gyda neu heb gytundeb

Mae Prif Weinidog Cymru wedi beirniadu newidiadau cabinet Boris Johnson gan ddweud fod ei lywodraeth wedi "gadael y tir canol" o ran gwleidyddiaeth Prydain.

Fe wnaeth 17 o weinidogion Ceidwadol gael y sac neu ymddiswyddo wrth i Mr Johnson olynu Theresa May i rif 10 Downing Street.

Ymhlith yr aelodau newydd i gael eu dyrchafu i'r cabinet mae Brexitwyr cadarn fel Jacob Rees Mogg, Priti Patel a Dominic Raab.

Mae Alun Cairns yn parhau yn y cabinet fel Ysgrifennydd Cymru.

Wrth gyfeirio at y penodiadau newydd, dywedodd Mark Drakeford mai ei bryder "yw bod y prif weinidog newydd wedi gadael tir canol gwleidyddiaeth Prydain, mae wedi gadael tir canol plaid ei hun".

"Mae wedi llunio gweinyddiaeth sydd bron yn dod yn gyfan gwbl o blith pobl sy'n dod o un safbwynt o fewn y blaid Geidwadol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford bellach yn cefnogi pleidlais arall ar Brexit

Yn ôl Mr Drakeford roedd o hefyd yn bryderus fod y bwlch rhwng blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a rhai Llywodraeth y DU "wedi cynyddu dros y 24 awr ddiwethaf o ran y math o gabinet mae o wedi ei lunio".

Mae Mr Johnson wedi addo y bydd yn gweithio'n galed er mwyn llunio cytundeb ymadael newydd gyda'r Undeb Ewropeaidd, ond mae hefyd wedi dweud yn bendant y bydd y DU yn gadael ar 31 Hydref gyda neu heb gytundeb "doed a ddelo".

Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn poeni fod y tebygolrwydd o adael yr UE heb gytundeb wedi cynyddu.

Mae wedi anfon llythyr ar y cyd â Phrif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon, yn galw ar Mr Johnson i addo na fydd yn derbyn Brexit heb gytundeb.

Mae'r llythyr yn dweud y byddai Brexit heb gytundeb yn "drychinebus i bob rhan o'r DU".

Ddydd Iau, ychwanegodd: "Doedd dim cytundeb ddim yn ddewis adeg y refferendwm nag yr etholiad cyffredinol diwethaf, felly mae yna gwestiwn ynglŷn â democratiaeth yma hefyd.

"Mae'r syniad y gallai Prif Weinidog geisio anwybyddu TÅ·'r Cyffredin, neu fwrw 'mlaen gyda'r math yma o lwybr yn wyneb gwrthwynebiad yn ein fforymau democrataidd yng Nghymru, yn Yr Alban, ac yn NhÅ·'r Cyffredin - dwi ddim yn gweld sut mae modd gwneud hyn."