Â鶹ԼÅÄ

Alun Cairns yn parhau fel Ysgrifennydd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Alun CairnsFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Alun Cairns ei benodi yn Ysgrifennydd Cymru am y tro cyntaf ym Mawrth 2016

Mae Alun Cairns i barhau fel Ysgrifennydd Cymru yn llywodraeth newydd Boris Johnson.

Roedd Mr Cairns, AS Bro Morgannwg, yn un o gefnogwyr ymgyrch Johnson i olynu Theresa May.

Mae wedi bod yn Ysgrifennydd Cymru ers Mawrth 2016.

Llwyddodd Mr Cairns i oroesi wrth i Mr Johnson wneud newidiadau mawr yn y Cabinet.

Fe wnaeth dros hanner o gabinet Theresa May, gan gynnwys Jeremy Hunt, gael y sac neu benderfynu gadael.

Golygai'r penodiad y bydd Alun Cairns wedi gwasanaethau fel Ysgrifennydd Cymru o dan arweinyddiaeth tri phrif weinidog gwahanol.

Un o benodiadau arall Mr Johnson oedd Robert Buckland sy'n enedigol o Lanelli. Cafodd AS Swindon ei benodi yn Ysgrifennydd Cyfiawnder.