Â鶹ԼÅÄ

Drakeford: 'Angen i ASau sicrhau bod refferendwm arall'

  • Cyhoeddwyd
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford bellach yn cefnogi pleidlais arall ar Brexit

Mae Prif Weinidog Cymru yn annog Aelodau Seneddol i weithredu ar frys i sicrhau bod Prif Weinidog nesaf y DU yn cynnal refferendwm arall ar Brexit.

Mae Mark Drakeford wedi ysgrifennu at bob AS o Gymru yn gofyn iddyn nhw gyflwyno deddfwriaeth erbyn diwedd Gorffennaf byddai'n galluogi pleidlais arall i gael ei chynnal.

Gobaith Mr Drakeford yw cyflwyno mesur o fewn wythnos i Jeremy Hunt neu Boris Johnson gael eu hethol.

Dywedodd arweinydd Llafur Cymru yn ei lythyr bod "rhaid gweithredu ar frys" er mwyn rhoi stop i'r "difrod economaidd sy'n cael ei achosi gan ansicrwydd Brexit".

Yn y llythyr mae Mr Drakeford yn egluro sut wnaeth y Cynulliad gefnogi cynnig symbolaidd yn galw am gynnal pleidlais arall ar amodau unrhyw gytundeb Brexit.

Ychwanegodd y byddai hi'n "warthus" pe byddai Llywodraeth y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

"Rydw i felly yn eich annog i barhau i geisio sicrhau deddfwriaeth byddai'n rhwystro gadael heb gytundeb, ond hefyd yn gorfodi'r llywodraeth i gyflwyno mesur refferendwm erbyn 31 Gorffennaf," meddai.

"Mae'n rhaid i hyn ddigwydd ar frys - ni allwn fforddio'r difrod economaidd sy'n cael ei achosi yn ddyddiol o ganlyniad i ansicrwydd ynglŷn â Brexit."