Cadarnhad y bydd Gatland yn arwain y Llewod yn 2021

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dyma fydd y trydydd tro i Gatland arwain y Llewod

Prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland fydd prif hyfforddwr y Llewod ar eu taith i Dde Affrica yn 2021.

Daeth cadarnhad swyddogol fore Mercher mai'r gŵr o Seland Newydd fydd yn arwain y tîm - a hynny am y trydydd tro.

Mae Gatland eisoes wedi ennill cyfres yn Awstralia yn 2013 a sicrhau cyfres gyfartal yn erbyn y Crysau Duon yn 2017.

Roedd hefyd yn rhan o dîm hyfforddi Syr Ian McGeechan ar y daith i Dde Affrica yn 2009.

Bydd Gatland yn gadael fel prif hyfforddwr Cymru yn dilyn Cwpan y Byd yn Japan, gyda Wayne Pivac o'r Scarlets yn cymryd ei le.