Â鶹ԼÅÄ

Warren Gatland i adael swydd hyfforddwr Cymru yn 2019

  • Cyhoeddwyd
Warren GatlandFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Warren Gatland wedi dweud y bydd yn gadael ei swydd fel hyfforddwr tîm rygbi Cymru ar ôl Cwpan y Byd yn Japan yn 2019.

Ers cael ei benodi yn 2007 mae Cymru wedi ennill y Gamp Lawn ddwywaith a fe sydd wedi bod yn y swydd am y cyfnod hiraf.

"Rydw i yma tan 2019 - y cynllun wedyn yw mynd adref am gyfnod," meddai wrth orsaf Radio Sport yn Seland Newydd.

Mae'r Â鶹ԼÅÄ wedi gofyn am ymateb Undeb Rygbi Cymru.

'Digon hir'

Dywedodd yr hyfforddwr: "Pe bawn i'n rhan o rygbi rhanbarthol neu Super Rugby byddai hynny'n grêt ond os ddim, efallai bydd rhaid i mi fynd i'r traeth am chwech neu 12 mis, rhoi fy nhraed i fyny a chymryd seibiant.

"Dyna'r cynllun. Dwi wedi bod i ffwrdd am ddigon hir. Dwi'n 52 felly gobeithio bod digon o flynyddoedd o hyfforddi o fy mlaen.

"Ar ôl 2019, yn sicr, y cynllun yw dod yn ôl i Seland Newydd."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Dathlu Camp Lawn 2008

Disgrifiad o’r llun,

Roedd hefyd yn hyfforddwr y Llewod ar eu taith i Awstralia yn 2013

Cafodd Gatland ei benodi ar ôl methiant Cymru yng Nghwpan y Byd yn 2007 dan reolaeth Gareth Jenkins.

Daeth llwyddiant yn fuan iawn wrth i Gymru sicrhau'r Gamp Lawn yn 2008 ac eto bedair blynedd yn ddiweddarach.

Cafodd seibiant o'i waith i arwain y Llewod i fuddugoliaeth dros Awstralia ond nid yw wedi cael yr un llwyddiant gyda Chymru yn erbyn timau hemisffer y de.

Dim ond dwywaith y mae Cymru wedi curo Seland Newydd, Awstralia neu Dde Affrica mewn 30 o gemau pan oedd Gatland yn eu hyfforddi.