Â鶹ԼÅÄ

Warren Gatland yn 'falch iawn o allu creu hanes'

  • Cyhoeddwyd
Cymru'n dathluFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland wedi dweud ei fod yn falch o allu creu hanes a chreu atgofion gyda'r garfan "arbennig yma".

Daeth sylwadau'r gŵr o Seland Newydd ar ôl i Gymru sicrhau'r Gamp Lawn gyda buddugoliaeth o 25-7 yn erbyn Iwerddon.

Mae'r canlyniad hwnnw yn golygu mai Gatland yw'r hyfforddwr cyntaf i gyflawni'r Gamp Lawn deirgwaith ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Dywedodd y prif hyfforddwr: "Heb os roeddwn i'n eithaf emosiynol ar ôl y chwiban olaf... roedd y teimlad o weld yr hogiau'n dathlu ac yn codi'r tlws yn anhygoel."

Roedd Gatland wedi darogan y byddai Cymru yn ennill y bencampwriaeth pe bai nhw'n trechu Ffrainc.

"Mae'n rhaid i mi ddangos digon o hyder a ffydd... a gobeithio wrth i'r chwaraewyr weld hynny, maen nhw'n dechrau credu hefyd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gatland wedi ennill y Gamp Lawn yn 2008, 2012 a 2019

Golygai'r fuddugoliaeth fod Cymru bellach wedi ennill 14 gêm o'r bron, ac yn codi i'r ail safle yn rhestr detholion y byd.

Ychwanegodd Gatland: "Rydw i'n hynod o falch o'r hyn rydw i a gweddill y tîm hyfforddi wedi ei gyflawni... mae'n arbennig.

"Roedd y perfformiad yn wych ac roedden nhw wir yn haeddu ennill. Byddai'r grŵp yma o chwaraewyr yn fodlon rhedeg drwy waliau i chi,"

"Mae sawl chwaraewr ifanc wedi torri drwodd yn ystod yr ymgyrch yma ac wedi dangos cryfder eu cymeriad."

'Ei record yn dweud y cyfan'

Yn ôl capten Cymru, Alun Wyn Jones, mae agwedd y prif hyfforddwr yn bendant yn cael effaith ar y garfan.

"Pan mae'r arweinydd mor hyderus, mae'r hyder yno yn cael ei basio 'mlaen ac mae hi'n anodd ei anwybyddu," meddai.

"Mae ganddo rywfaint o amser ar ôl ar ei gytundeb presennol felly fedrwn ni ddim arafu eto... ond mae ei record yn dweud y cyfan."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y canolwr Hadleigh Parkes sgoriodd y cais cyntaf ddydd Sadwrn

Dyma oedd gêm olaf Gatland ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, wedi iddo gyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo yn dilyn Cwpan y Byd 2019 yn Siapan.

"Fydda i bendant yn methu awyrgylch y ddinas... cyrraedd ar y bws, yr holl gefnogwyr a'r dathliadau," meddai.

"Ar ôl bod yma am gyfnod mor hir, dwi wir yn gobeithio y bydden nhw yn parhau i lwyddo, yn parhau i weithio'n galed ac yn parhau i fod yn anodd i'w curo."

Ychwanegodd: "Fydda i bendant yn methu'r teimlad wrth wylio Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar y teledu blwyddyn nesaf!"