Ateb y Galw: Y band Alffa

Disgrifiad o'r llun, Sion Land (chwith) a Dion Jones yw aelodau Alffa. Gwnaeth y band hanes ym mis Rhagfyr 2018 pan gafodd eu cân, Gwenwyn, ei ffrydio dros filiwn o weithiau ar Spotify - y gân Gymraeg gyntaf i daro'r targed

Sion Land a Dion Jones o'r band Alffa sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddyn nhw gael eu henwebu gan Mabli Tudur yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Sion: Un o'n atgofion cyntaf yw Dad yn chwarae Stairway to Heaven wrth ddreifio rownd Caernarfon mewn Rover 25.

Dion: Ermmm ddim yn cofio yn dda iawn...

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

S: Yr hogan oddi ar gyfres gynta' Sarah Jane Adventures (rhyw raglen spin-offDoctor Who oedd ar CÂ鶹ԼÅÄ).

D: Neb rili yn sefyll allan sori - haha.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

S: Pi-pi'n drwsus pan o'n i'n Blwyddyn 2.

D: Fy mhrif gitâr yn torri mewn gig yng The Moon Club yng Nghaerdydd, a gorfod menthyg un gan un o'r bandiau cynt.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

S: Cwpwl o wythnosa'n nôl pam nesh i agor ap bancio Santander ar ôl noson allan.

D: Yn gwylio rhaglen newydd Ricky Gervais ar Netflix. O'dd o i fod yn raglen ddoniol, ond am ryw reswm o'n 'ni gweld rhywbeth reit sensitif ynddo.

Ffynhonnell y llun, Netflix

Disgrifiad o'r llun, Mae cyfres Ricky Gervais, After Life, yn sôn am frwydr Tony i ddygymod â marwolaeth ei wraig

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

S: Snacio gormod.

D: Yn lle codi fy sbectol efo fy mysedd, o'n i'n gwasgu nhrwyn. Felly o'n i'n edrach yn flin ar bobl ond codi fy sbectol o'n i.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

S: Llanrug a'r ardal o gwmpas. Does nunlla gwell nag adra.

D: Caerdydd - Clwb Ifor Bach.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

S: Dwi 'di ca'l lot o nosweithia' 'swn i'n cysidro fatha'r rhai gora' erioed. Ma'r noson pryd 'natho ni guro Brwydr y Bandiau yn un o'r nosweithia' gora', er bo' fi'm yn cofio llawar. Fysa nosweithia' canlyniadau TGAU a Lefel A yn gwneud yr highlight reel o nosweithia' gwych hefyd.

D: Y gig yng Nghlwb Ifor pryd 'natho ni werthu y lle allan a chwarae i dorf anhygoel. Hefyd, gwylio Jack White gyda Sion yn Lerpwl. A gwylio Demob Happy ym Manceinion gyda fy nghariad. Sori - methu dewis rhwng y tri!

Disgrifiad o'r sainAlffa, enillwyr Brwydr y Bandiau 2017 yn sgwrsio gyda Lisa Gwilym a chwarae sesiwn am y tro cyntaf

Disgrifia dy hun mewn tri gair

S: Direidus, cerddorol, 'bach o grinc ar adegau!

D: Cerddorol, moody, penderfynol.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

S: Fy ffilm gorau yw Pulp Fiction. Ma' jyst yn anhygoel.

D: Lord of the Rings - ddim angen eglurhad, mae o'n wych.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

S: Fyswn i'n cael diod gyda John Bonham. John Bonham yw un o'r drymars cyntaf nes i erioed wrando arno. Efallai 'swn i'n cael 'chydig o tips gan y dyn ei hun.

D: Jack White, fy arwr cerddorol

O archif Ateb y Galw:

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

S: Dwi'n ffan masif o Duran Duran.

D: Dwi wedi dysgu'r gitâr oddi ar YouTube.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

S: Bosib fyddai'n chwarae dryms.

D: Cael ymarfer band.

Beth yw dy hoff gân a pham?

S:When The Levee Breaks gan Led Zeppelin. Ma' Dad yn ffan mawr o Led Zeppelin a dwi'n cofio clywed hi lot pam o'n i'n tyfu fyny.

Pan nes i ddechra dysgu'n hun i chwarae dryms pam o'n i tua 13/14, When The Levee Breaks oedd un o'r caneuon o'n i'n practisio. Os dwi'n stressed neu'n anhapus am rhywbeth dwi'n rhoi'r gân yna 'mlaen. (Bach yn crinj ond 'na ni 'de!)

D: Anodd penderfynu ar un gân - ma' rhwng Foxy Lady gan Hendrix neu Since I've Been Loving You Led Zeppelin.

Disgrifiad o'r llun, Mae Sion a Dion yn ffans mawr o'r band Led Zeppelin

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

S: Crymbl afal Ysgol Brynrefs, crymbl afal Ysgol Brynrefs a crymbl afal Ysgol Brynrefs.

D:Sushi, byrgyr a chips, hufen iâ creme egg.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

S: Josh Homme o'r band Queens of The Stone Age (ma'r boi jysd yn cŵl).

D: Josh Homme neu Jack White.

Disgrifiad o'r llun, Mae Josh Homme mor cŵl, mae o hyd yn oed wedi adrodd stori i blant ar gyfer CBeebies Bedtime Story

Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Unrhyw aelod o'r band Gwilym