Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Y berfformwraig Gillian Elisa

  • Cyhoeddwyd
Gillian ElisaFfynhonnell y llun, Gillian Elisa

Y berfformwraig Gillian Elisa sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan .

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Edrych mas o'r pram yn fabi bach, a'r hood a'r fflap i fyny oherwydd roedd hi'n bwrw glaw ac roeddwn i'n teimlo'n saff iawn yn y pram!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Paul McCartney a Robert Redford.

Ffynhonnell y llun, Rex/Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Robert Redford gryn argraff ar Gillian, pan oedd hi'n iau

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Johnny Tudor yn canu Delilah mewn clwb yn Llansawel nôl yn yr 80au, a finne'n mynd i fyny i'r llwyfan i fod yn Delilah. Ond ro'n i wedi cael gormod o siampên pinc a ddylwn i byth fod wedi 'neud e... er mor ddoniol oedd gweld fi'n neud shwd beth ar y pryd! Johnny, y pro gyda'i steil unigryw, yn cario 'mlaen i ganu a trial gwthio fi bant o'r llwyfan yr un pryd ac yn cadw ei urddas. Un o'r rhesymau nes i roi'r gorau i'r ddiod feddwol!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Wedi llefen lot eleni ar ôl colli fy mrawd Alun blwyddyn yn ôl, a cholli Tincs fy nghi bach annwyl mewn damwain car, a dwi newydd roi fy nghath Musk i gysgu ar ôl 21 o flynyddoedd.

Bob tro ma' 'na golled yn y teulu, dwi'n llanw lan a ma'r atgofion o Mam a Dad, Alun, fy nwy fodryb a ffrindie agos sydd ddim gyda ni bellach yn llifo nôl. Falch i 'weud bod hyn yn lleihau gydag amser.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Tueddu i fynd i'r gwely'n hwyr!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Llanbed. Fan'na fi'n cael y cysur a'r cariad.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Pan nes i chware rhan Grandma yn Billy Elliot fe lwyddodd fy mrawd Alun ddod i Lunden, er ei salwch, i aros 'da fi yn fy fflat a dod i weld fi'n perfformio ar noson San Steffan. Helpodd fy ffrind, Eluned Hawkins, fi i fynd ag Alun i'w sedd. Er gwaetha'r ffaith bod ni wedi gorfod stopio'r sioe achos problem technegol, roedd Alun dal yn joio yn y stalls yn bwyta hufen iâ - dim byd wedi amharu ar ei noson. Dyna'r Nadolig mwya' hapus dwi wedi cael ers yn ferch fach.

O archif Ateb y Galw:

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Creadigol, cefnogol, positif.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Butch Cassidy and the Sundance Kid - 'na pryd gwmpes i mewn cariad 'da Robert Redford. A It's a Wonderful Life - ma'n 'neud fi deimlo'n hapus!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Robert Redford neu Liam Neeson - y ddau yn olygus a diddorol. Dwli arnyn nhw ar y sgrin fawr, ac mae'r ddau yn bersonoliaethau sydd yn apelio ata i.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n gallu chwibanu'n uchel ofnadw pan dwi'n rhoi dau fys un llaw yn fy ngheg. Mae'r sŵn yn gallu mynd reit drwyddo chi. Bydden i'n dda iawn gyda chŵn defaid!

Disgrifiad,

Efallai gall Aled Hughes gynnig gair o gyngor ar sut i hel defaid... neu efallai ddim!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Rhannu pryd o fwyd ffein a chwtsho a chysgu gyda Cariad, fy nghi bach, a Treacle, fy nghath 16 oed.

Beth yw dy hoff gân a pham?

A horse with no name gan America a God only knows gan The Beach Boys. Byth yn blino clywed nhw.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf: Asparagus gyda sôs arbennig o flasus (ond dim gormod).

Prif gwrs: Eog wedi ei goginio 'da lemwn a menyn a llysiau a reis brown neu datws.

Pwdin: Sorbet neu unrhyw fath o hufen iâ.

Syml a blasus.

Ffynhonnell y llun, Francois Durand
Disgrifiad o’r llun,

Mae Olivia de Havilland, yr actores, yn dal i edrych yn wych!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Olivia de Havilland, i ffindo mas beth yw'r gyfrinach i gadw'n urddasol mor hir - ma' hi'n 102!

Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Aneirin Hughes