Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Ieuan Rhys

  • Cyhoeddwyd
ieuanFfynhonnell y llun, IeuanRhys

Yr actor Ieuan Rhys sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo .

Beth ydi dy atgof cynta'?

Mynd ar wylie i garafan dadcu yn Trecco Bay ym Mhorthcawl.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Farrah Fawcett - o 'Charlie's Angels' ac Ann Jenkins o Cemetery Rd, Trecynon.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya o gywilydd arnat erioed?

Aros mewn gwesty yn Paddington, Llundain a rhuthro i gael brecwast yn y basement gan golli'r gris ola a chwmpo'n ffradach dros ford a brecwast yr hen fenyw 'ma! Yna codi o'r ford fel se dim byd 'di digwydd!!

Disgrifiad o’r llun,

Buodd Ieuan yn cadw trefn yng Nghwmderi am rai blynyddoedd fel Sarjant James

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Yn gwylio rhywbeth fel 'Surprise! Surprise!' ar y teledu siwr o fod!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Yfed gormod o Diet Coke a ffaelu rhoi'n iPhone i gadw am eiliad!

Disgrifiad o’r llun,

Ieuan gyda Phyl Harries ar lwyfan y Noson Lawen

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Naill ai traeth Llangrannog (atgofion melys o nghyfnod fel plentyn a swog yng Ngwersyll yr Urdd) neu Bae Caerdydd (joio mynd am fwyd yna a gweld sioe yng Nghanolfan y Mileniwm).

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Cyngerdd Frank Sinatra yn Neuadd Albert Llundain neu fy mharti penblwydd yn 40 oed yng nghlwb No10 ar Mill Lane, Caerdydd.

Disgrifia dy hun mewn 3 gair.

Optimistaidd - Cyfeillgar - Moel!

Disgrifiad o’r llun,

Ieuan gyda Syr David Jason a Gary Whelan yn ystod ffilmio y gyfres 'Diamond Geezers'

Beth yw dy hoff lyfr?

Hunangofiannau. Darllen un Syr Tom Jones 'Over The Top And Back' ar hyn o bryd.

Pa ddilledyn fyddi di methu byw hebddo?

Yn y gaeaf, het a sgarff.

Beth oedd y ffilm ddiwetha' welaist di?

'Black Mass' gyda Johnny Depp (roedd e yn y ffilm - nage fe dda'th 'da fi!)

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Tase fe'n fyw, un o sêr y ffilmiau 'Carry On', Bernard Bresslaw!

Dy hoff albwm?

'Ryan At The Rank'. Ryan yw fy arwr a dwi'n gwybod bron pob gair ar yr albwm yma.

Disgrifiad o’r llun,

Un o arwyr Ieuan; Ryan Davies

Cwrs cynta', prif gwrs neu bwdin - pa un yw dy ffefryn a be' fyddi di'n ddewis?

Prif gwrs - Tagiatelle Carbonara.

Taset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod pwy fydde fe/hi?

William Roache, sy'n chwarae rhan Ken Barlow, er mwyn cael treulio diwrnod ar set 'Coronation Street'.

Pwy fydd yn ateb y galw wythnos nesa'?

Amanda Protheroe Thomas

Yn ystod y cyfnod panto bydd Ieuan yn diddanu cannoedd o blant neu'n rhuthro lan a lawr priffyrdd Prydain. ac am flynyddoedd sydd erbyn hyn yn bell...'tu ôl iddo!'