Â鶹ԼÅÄ

Cefnogi cytundeb Brexit: 'Yr unig ffordd ymlaen'

  • Cyhoeddwyd
David DAvies
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ceidwadwr David Davies wedi cefnogi cytundeb Brexit Theresa May ddwywaith

Cefnogi cytundeb Brexit y Prif Weinidog yw'r "unig ffordd ymlaen" ar ôl i Dŷ'r Cyffredin wrthod cyfres o opsiynau eraill ar Brexit, yn ôl y Ceidwadwr David Davies.

Dywedodd Aelod Seneddol Mynwy bod y pleidleisiau nos Fercher yn dangos nad oes cefnogaeth ar gyfer unrhyw ddewis arall.

Ymysg yr opsiynau gafodd eu gwrthod gan ASau oedd gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, atal Brexit er mwyn osgoi gadael heb gytundeb, a chynnal refferendwm arall.

Serch hynny, fe bleidleisiodd mwy o ASau o blaid pleidlais gyhoeddus arall nag a bleidleisiodd o blaid unrhyw un o'r opsiynau eraill.

Ildio'r Awennau

Nododd arweinydd Plaid Cymru'n San Steffan, Liz Saville Roberts, bod mwy o ASau wedi cefnogi'r alwad am ail refferendwm nag a gefnogodd cytundeb Brexit y Prif Weinidog bythefnos yn ôl.

Mae Theresa May wedi colli dwy bleidlais ar ei chytundeb gan wynebu gwrthwynebiad gan aelodau o fewn ei phlaid ei hun yn ogystal â'r gwrthbleidiau.

Ond cyn y pleidleisiau nos Fercher, fe ddywedodd hi wrth ei haelodau meinciau cefn y byddai hi'n ildio'r awennau pe bai'r Senedd yn cefnogi ei chytundeb Brexit os a phan y daw gerbron y TÅ· am y trydydd tro.

Dywedodd dau Aelod Seneddol Ceidwadol o Gymru na fyddai ei chyhoeddiad yn eu darbwyllo nhw i bleidleisio o blaid y cytundeb.

Mae David Davies, a ymgyrchodd dros adael yr Undeb Ewropeaidd, wedi cefnogi'r cytundeb ddwywaith.

Fe ddywedodd wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru bod canlyniad y pleidleisiau nos Fercher yn dangos taw'r "unig ffordd ymlaen yw i dderbyn y cytundeb - does dim cefnogaeth ar gyfer opsiwn arall".

"Mae angen i'r Brexiteers ddeall taw dyma'r unig opsiwn sydd ar ôl."

Y cytundeb yw'r "unig ffordd i ni adael yr Undeb Ewropeaidd," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Nododd Liz Saville Roberts bod mwy o ASau wedi cefnogi'r alwad am ail refferendwm nag a gefnogodd cytundeb Brexit y Prif Weinidog.

Dywedod Liz Saville Roberts bod y pleidleisiau o blaid refferendwm arall "yn uwch nag unrhyw beth arall o edrych yn bositif…ac yn uwch na'r pleidleisiau dros gytundeb y Prif Weinidog yn y gorffennol".

Fe ychwanegodd hi y gallai addewid Theresa May i ymddiswyddo ennill pleidleisiau gan rai Ceidwadwyr "ond fe allai hi golli rhywfaint o'r gefnogaeth Llafur oedd ganddi".

Dywedodd Nia Griffith, aelod o gabinet cysgodol y blaid Lafur, bod Aelodau Seneddol wedi torri tir newydd nos Fercher ac mai "dechrau'r broses yn unig" oedd hyn.

"Yn amlwg mae angen i ni eistedd i lawr a cheisio cael y system gorau posib er mwyn agor y drafodaeth yn bellach," meddai.

Pleidlais arall

Wrth ymateb i fethiant TÅ·'r Cyffredin i gefnogi unrhyw gynllun newydd, dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford: "Canlyniad siomedig ond ddim yn syndod.

"Gadewch i ni weld beth sy'n digwydd ddydd Llun."

Mae disgwyl i Aelodau Seneddol gynnal cyfres o bleidleisiau eto ddydd Llun.