Â鶹ԼÅÄ

Dim mwyafrif yn NhÅ·'r Cyffredin i unrhyw gynllun Brexit

  • Cyhoeddwyd
HoC

Mae Aelodau Seneddol wedi methu â chytuno ar ffordd ymlaen gyda'r broses Brexit.

Yn dilyn cyfres o bleidleisiau ar wahanol opsiynau doedd yna ddim mwyafrif o blaid unrhyw un o'r wyth dewis o'u blaenau.

Fe wnaeth 400 o ASau bleidleisio'n erbyn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Ac fe bleidleisiodd 293 yn erbyn atal y broses Brexit er mwyn osgoi gadael yr UE heb gytundeb, o'i gymharu â 184 o blaid.

Fe bleidleisiodd 268 o blaid cynnal ail refferendwm o'i gymharu â 295 yn erbyn.