Â鶹ԼÅÄ

Addewid ymddiswyddo May 'heb newid safbwynt' dau AS

  • Cyhoeddwyd
TMFfynhonnell y llun, Reuters

Mae dau AS Ceidwadol o Gymru wedi dweud eu bod yn dal i wrthwynebu cytundeb Brexit y Prif Weinidog er ei haddewid i ymddiswyddo.

Dywedodd Theresa May wrth aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr y byddai'n ymddiswyddo fel Prif Weinidog petai TÅ·'r Cyffredin yn pleidleisio o blaid ei chytundeb Brexit.

Ond dywedodd y cyn-weinidog Brexit David Jones a'r cyn-weinidog yn Swyddfa Cymru, Guto Bebb, nad oedden nhw wedi newid eu meddyliau.

Roedd AS Ceidwadol arall, David Davies, wedi dweud ei fod yn disgwyl i'r Prif Weinidog ymddiswyddo "yn fuan iawn", yn dilyn ei chyhoeddiad brynhawn Mercher.

Dywedodd Mr Davies, AS Mynwy - oedd yn bresennol i glywed araith Mrs May - ei bod wedi siarad mewn modd "egwyddorol" a bod ei chyhoeddiad "wedi dod fel tipyn o sioc".

Mae Theresa May'n barod wedi colli dwy bleidlais ar ei chytundeb ond mae'r llywodraeth yn bwriadu cynnal pleidlais arall ddydd Gwener - os ydy Llefarydd y Tŷ John Bercow yn caniatáu hynny.

Ar ôl atal pleidlais debyg yr wythnos diwethaf, rhybuddiodd Mr Bercow na fyddai'n caniatáu pleidlais arall oni bai bod rhywbeth wedi newid ers y tro diwethaf i ASau wrthod y cytundeb.

Disgrifiad o’r llun,

Cred yr AS David Davies y bydd Theresa May yn "ymddiswyddo'n fuan iawn"

Ar y Post Prynhawn, dywedodd Mr Davies: "Fel dwi'n deall y sefyllfa mae hi'n mynd i ymddiswyddo'n fuan iawn, dros y dyddiau nesaf...

"Ar un pryd dywedodd hi pa mor bwysig yw e bod y cytundeb nawr yn pasio, pe buasai ddim yn pasio does neb yn gallu dweud be sy'n mynd i ddigwydd."

Ychwanegodd Mr Davies bod rhai ASau Ceidwadol a oedd wedi gwrthwynebu ei chytundeb Brexit bellach yn fodlon ei gefnogi.

"Dwi ddim yn meddwl bydd pob un aelod o'r blaid Geidwadol yn cefnogi'r cytundeb ac wrth gwrs mae'n gwestiwn mawr am y DUP... mae'r Prif Weinidog wedi dweud bod y drafodaeth yn parhau gyda nhw.

"A felly dwi ddim yn siŵr, alla' i ddim yn rhoi bet ar gytundeb yn pasio. Cawn ni weld."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Guto Bebb bod ymadawiad Mrs May yn gwneud ei chytundeb yn "hyd yn oed llai atyniadol"

Ond dywedodd y cyn-weinidog Brexit Mr Jones nad oedd y cyhoeddiad wedi ei ddarbwyllo i gefnogi'r cytundeb.

"Rydw i wedi pleidleisio'n erbyn y cytundeb ymadael ddwywaith achos dydy o ddim yn dda i'r wlad," meddai Mr Jones, AS Gorllewin Clwyd.

"Clywais i ddim byd heno i fy narbwyllo i ei fod wedi gwella mewn unrhyw ffordd."

Un arall sydd ddim am newid ei safbwynt ydy AS Ceidwadol Aberconwy, Mro Bebb, a ddywedodd "dydy o ddim wedi newid y cytundeb wrth gwrs yn ei hanfod".

"Tra mae'r DUP yn gwrthwynebu'r cytundeb mi fydd 'na aelodau o'r blaid Geidwadol, yn enwedig o'r ERG, yn gwrthwynebu'r cytundeb.

"I mi mae'r ffaith bod y prif weinidog yn dweud ei bod hi'n mynd yn gwneud y cytundeb hyd yn oed llai atyniadol."

'Cil-dwrn mwyaf'

Wedi'r cyhoeddiad, dywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns bod cyhoeddiad y Prif Weinidog "yn esiampl ohoni'n rhoi'r wlad o flaen ei hun, fel mae hi wastad wedi ei wneud".

"Mae hi wedi ceisio dod a gwahanol safbwyntiau ar ddwy ochr y blaid a'r wlad ynghyd," meddai.

Ychwanegodd Simon Hart, AS Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, bod rhai yn y cyfarfod wedi newid eu meddyliau yn sgil cyhoeddiad Mrs May.

"Roedd yna ddwy neu dair araith gan aelodau'r meinciau cefn yn yr ystafell yn dweud 'Fe bleidleisiais i yn eich erbyn chi'r tro diwethaf, Brif Weinidog, ond nawr rydw i'n mynd i gefnogi'r cytundeb'," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jo Stevens mai addewid Mrs May oedd y "cil-dwrn mwyaf" i'w phlaid

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford taw hwn oedd "tafliad gorffwyll ola'r dis" gan Theresa May.

Ond wrth ymateb, dywedodd AS Llafur dros Ganol Caerdydd, Jo Stevens, mai addewid Mrs May oedd y "cil-dwrn mwyaf" i'w phlaid.

"Does gan hyn ddim i'w wneud â'r diddordeb cenedlaethol, gyda bywydau, llwyddiant a dyfodol y bobl rydyn ni'n eu cynrychioli."

Dywedodd AS Llafur dros y Rhondda, Chris Bryant, mai'r addewid o ddiswyddiad ydy'r "rheswm gwaethaf oll" i gefnogi cytundeb Mrs May, gan nad gwleidyddiaeth "ar sail tystiolaeth ac er mwyn y genedl" ydy hyn.

Yn ôl Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, Theresa May fydd yr ail Brif Weinidog Ceidwadol i gefnu ar ei chyfrifoldeb.