Â鶹ԼÅÄ

Merch yn diolch am ei llyfr Cymraeg cyntaf mewn braille

  • Cyhoeddwyd

Roedd Diwrnod y Llyfr yn gyffrous iawn i un Gymraes ifanc eleni - fe gafodd ei llyfr Cymraeg cyntaf mewn braille.

Ers dwy flynedd mae Mari wedi bod yn dysgu sut i ysgrifennu a darllen braille gan fod ei golwg yn dirywio oherwydd cyflwr airidia.

Ond does yna ddim llyfrau addas yn ei mamiaith wedi bod ar gael iddi - tan nawr.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae Mari yn mwynhau darllen fel unrhyw blentyn arall," meddai mam Mari, Caryl, sydd yn y canol gyda Llinos Griffith, cymhorthydd Ysgol Llandwrog, ar y chwith, y pennaeth Carys Thomas ar y dde... ac wrth gwrs Mari

I ddathlu Diwrnod y Llyfr eleni fe wnaeth y Cyngor Llyfrau gomisiynu dau lyfr newydd gan weithio gyda'r elusen i'r deillion RNIB er mwyn cael rhai ar ffurf hygyrch.

Ac felly mae Mari newydd gael copi braille o 'Na, Nel! Un tro...' gan Meleri Wyn James a 'Darllen gyda Cyw' gan Anni LlÅ·n.

Yn ôl ei mam, Carys, fu'n siarad ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru, mae'n bwysig bod yr adnoddau ar gael iddi.

Meddai: "Mae'n rili braf bod mwy o lyfrau Cymraeg mewn braille yn dod allan i blant achos mae Mari yn mwynhau darllen fel unrhyw blentyn arall ac mae'n bwysig eu bod nhw ar gael.

"Y cyflwr sydd ganddi ydi airidia. Mae hi wedi ei chofrestru yn ddall ond mae ganddi rywfaint o olwg, ac felly'n gallu darllen print bras.

"Mae'r ysgol yn chwyddo llyfrau fyny iddi i faint 48 ond os mae hi wedi blino mae hi'n stryglo i ddarllen print mor fawr â hynny hefyd.

"Y tebygrwydd ydi mi neith hi golli ei golwg i gyd fel aiff hi yn hÅ·n felly mae'r braille yn ofnadwy o bwysig - ac mae o yna i Mari wedyn yn dydi.

"Mae cael y llyfrau Cymraeg mewn braille yn gam ymlaen a 'da ni'n falch ein bod ni wedi archebu'r llyfrau newydd yma.

"Mae Mari yn edrych ymlaen at gael darllen nhw.

"Mae'n bwysig ei bod hi'n cael yr un cyfleoedd a phawb arall, ei ffrindiau a'r dosbarth i gyd."

Disgrifiad o’r llun,

Mari yn defnyddio'r peiriant 'brailler'

Ers dwy flynedd mae Mari, sy'n ddisgybl Blwyddyn 2 yn Ysgol Llandwrog ger Caernarfon, wedi bod yn dysgu sut i ddefnyddio peiriant brailler er mwyn ysgrifennu.

Mae hi rŵan yn dysgu darllen braille hefyd gyda chymorth Llinos Griffith, sy'n gymhorthydd yn yr ysgol.

Meddai: "Mae o fel iaith wahanol. Mae'n anodd - ond mae Mari yn gwneud yn dda iawn ac mae yna wasanaeth arbenigol yn dod i mewn - sef Llinos a Catrin - ddwywaith yr wythnos yn rhoi cefnogaeth i ni fel ysgol i allu defnyddio'r brailler a dysgu wrth fynd ymlaen.

"Gan ein bod ni'n cychwyn rŵan, mae'r ddarpariaeth yn eithaf da, ond wrth i ni fynd yn ein blaenau bydd angen mwy.

"Maen nhw'n sôn am touch typing a phan fydd y cyfrifiadur yn siarad efo Mari fydd o'n Saesneg felly mae cael darpariaeth yn Gymraeg yn ofnadwy o bwysig."

Mae fersiynau hygyrch o Na, Nel! Un tro… a Darllen gyda Cyw ar gael drwy linell gymorth yr RNIB (0303 123 9999 neu ebostio helpline@rnib.org.uk)