Â鶹ԼÅÄ

Syniadau gwahanol i ddathlu Diwrnod y Llyfr

  • Cyhoeddwyd
bethan gwanas

Dydd Iau, Mawrth 7 mae hi'n Ddiwrnod y Llyfr. Mae'n ddigwyddiad blynyddol a gafodd ei ddechrau gan UNESCO yn 1995 i hybu darllen, cyhoeddi a hawlfraint.

Un o arferion y diwrnod erbyn hyn yw i blant wisgo fel eu hoff gymeriad o lyfr. Ond nid pawb sydd eisiau gwisgo i fyny.

Mae ffyrdd eraill i rieni fod yn greadigol gyda'u dathliadau, ac os ydych chi wedi bod yn crafu eich pen am weithgareddau, mae Cymru Fyw yma i helpu!

Os hoffech chi wneud rhywbeth ychydig yn wahanol eleni, mi gasglodd yr awdur poblogaidd, Bethan Gwanas, syniadau at ei gilydd a'u cyhoeddi ar .

Mae Cymru Fyw wedi dewis rhai o'n hoff rai i'ch ysbrydoli chi.

1. Helfa drysor gyda llyfrau.

2. Brecwast llyfrau cyn mynd i'r ysgol gyda rhieni / nain a taid / pwy bynnag gyda llond mwg o siocled poeth a phawb yn darllen.

3. Llyfr Ffactor, sef cystadleuaeth sefyll i fyny o flaen pawb i sôn am eich hoff lyfr am 2-3 munud.

4. Creu golygfa o lyfr mewn bocs esgidiau neu jar fel yr un lliwgar yma.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Gymuned Llanfechell
Disgrifiad o’r llun,

Bocsys esgidiau gyda golygfeydd o nofel Roald Dahl. Allwch chi ddyfalu pa un?

5. DEAR, sef "Drop Everything and Read", sef pawb, yn cynnwys y staff, ar ganiad cloch neu seiren i roi'r gorau'n syth i'r hyn 'roedden nhw'n ei wneud a darllen yn dawel (neu'n uchel) am ddeg munud. Oes fersiwn Gymraeg, dywedwch? Beth am DODAS, "Dim Ond Darllen Am Sbel"?

6. Caffi llyfrau gyda bwydlen o lyfrau a blas o bob un

7. Ysgrifennu a darlunio llyfr fel ysgol.

8. Pob dosbarth i berfformio llyfr i'r dosbarthiadau eraill - gyda phypedau neu fasgiau, props, BSL ac ati.

Mae gan Bethan Gwanas un gair o gyngor sy'n bwysig cadw mewn cof drwy gydol y diwrnod, ac efallai dyma'r neges bwysicaf oll wrth ddarllen: "Be bynnag fyddwch chi'n ei neud, mwynhewch!"