Â鶹ԼÅÄ

Addasu llyfrau Cymraeg i'r dall ar Ddiwrnod y Llyfr

  • Cyhoeddwyd
Nick Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adnodd newydd yn galluogi Nick a'i blant i fwynhau gwrando ar y llyfrau gyda'i gilydd

Mae tad o Wynedd sydd â nam ar ei olwg yn gallu mwynhau llyfrau Cymraeg gyda'i blant am y tro cyntaf, diolch i RNIB Cymru.

Fel rhan o Ddiwrnod y Llyfr, mae RNIB Cymru wedi addasu dau lyfr Cymraeg i blant fel eu bod ar gael ar ffurf lafar, braille a phrint bras hefyd.

Un o awduron y llyfrau a gomisiynwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru ydi Anni LlÅ·n, sy'n croesawu'r cynllun fel un "cynhwysol" sy'n hybu darllen i bawb.

Ond dywedodd Emma Jones o'r RNIB nad oes digon o arian ar gael i ddatblygu'r sector.

Mae Diwrnod y Llyfr yn ddathliad byd-eang, gyda dros 100 o wledydd yn hyrwyddo'r dydd.

Dyma'r eildro yn olynol i lyfrau gael eu comisiynu gan y Cyngor Llyfrau ar Ddiwrnod y Llyfr, ond y tro cyntaf iddi weithio mewn partneriaeth â'r RNIB i greu adnodd ar ffurf hygyrch.

'Na, Nel! Un tro...' gan Meleri Wyn a 'Darllen gyda Cyw' gan Anni LlÅ·n yw'r ddau lyfr newydd sydd ar gael i deuluoedd a phlant dall.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Emma Jones nad oes digon o arian ar gael i ddatblygu'r sector

Esboniodd Emma Jones, rheolwraig drawsgrifio RNIB Cymru bod y gwaith yn sicrhau bod plant dall a rhannol ddall yn gallu "rhannu cyffro'r diwrnod arbennig hwn".

"Mae'r gwaith yma'n hollbwysig - mae'n bwysig bod plant sydd wedi colli eu golwg yn gallu darllen llyfrau fel eu cyfoedion," meddai.

Mae RNIB Cymru eisoes yn darparu gwasanaethau llyfrau llafar i blant ac oedolion sydd â nam ar y golwg.

Ond yn ôl Ms Jones, mae diffyg buddsoddiad yn parhau i gyfyngu eu gwasanaethau.

"Does dim digon o arian ar gael er mwyn datblygu'r math yma o waith - dyw e ddim yn deg bod pobl sydd wedi colli eu golwg yn gorfod mynd heb," meddai.

Amser i'r teulu

Mae Nick Thomas o Dalysarn yn byw a chyflwr o'r enw Stargart Macular Dystrophy, sydd yn achosi i'w olwg ddirywio.

Eglurodd bod darllen llyfr neu ddarllen cylchgrawn yn "amhosib" oherwydd ei nam golwg.

Pan fydd hi'n amser gwely i'w blant, Cadi sy'n wyth, a Hari, pump, nhw fydd yn darllen i Nick fel arfer, yn wahanol i deuluoedd eraill.

"Mae Cadi'r ferch yn ddarllenwr cryf iawn, felly pan ydyn ni'n cael amser stori, yn fwy aml na dim Cadi ydy'r un sy'n darllen i fi," meddai Nick.

Ond oherwydd gwaith RNIB Cymru, fe fydd Cadi yn cael seibiant bach wrth i fersiwn llafar o lyfrau Cymraeg fod ar gael i'r teulu cyfan.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Anni LlÅ·n bod gan "pawb yr hawl i fwynhau stori"

Yn lansiad y llyfrau, fe eglurodd un o'r awduron, Anni LlÅ·n, pa mor bwysig ydy hi fod y llyfrau ar gael i bawb.

"Dyna sydd yn anhygoel - mi ydyn ni'n gallu bod yn gynhwysol, mi ydyn ni'n gallu hybu darllen, a llyfrau yn benodol fel rhywbeth i bawb, achos stori sydd yna yn y pendraw ac mae gan bawb yr hawl i fwynhau stori," meddai.

"Mae darllen yn gallu bod yn rhywbeth cymdeithasol - mae'n dod â theulu neu uned at ei gilydd."

Er mwyn derbyn fersiwn hygyrch o Na, Nel! Un tro… a Darllen gyda Cyw cysylltwch â llinell gymorth yr RNIB drwy ffonio 0303 123 9999 neu ebostio helpline@rnib.org.uk