Oriel: Dathlu Diwrnod y Llyfr 2019

Ar Ddiwrnod y Llyfr bob blwyddyn, mae yna olygfeydd go ryfedd i'w gweld mewn ysgolion ar draws Cymru, wrth i ddisgyblion wisgo fel eu hoff gymeriad - a doedd eleni ddim yn eithriad!

Disgrifiad o'r llun, Caws! Aeth Bethan Gwanas draw i Ysgol Llanfechell, Ynys Môn, i adrodd straeon gyda'r plant, ac wrth gwrs, i ddotio at eu gwisgoedd ffansi

Ffynhonnell y llun, Beth Ellis

Disgrifiad o'r llun, Mae Mali a Macsen yn gwerthfawrogi'n fawr fod Mam-gu wedi bod wrthi'n brysur yn creu eu gwisgoedd Jemeima Mop a Jac y Jwc arbennig!

Ffynhonnell y llun, Emma Watt

Disgrifiad o'r llun, Yn wên o glust i glust: Mae Ellis wrth ei fodd ei fod o'n cael gwisgo fel ei arwr, Sam Tân, i fynd i'r ysgol!

Ffynhonnell y llun, Ysgol Baladeulyn

Disgrifiad o'r llun, Aeth Ysgolion Baladeulyn, Nebo a'r Eifl draw i'r lle gewch chi'r holl lyfrau - y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth - i ddathlu Diwrnod y Llyfr
Disgrifiad o'r llun, Mae Elsa ac Efa wedi dod i'r ysgol wedi gwisgo fel Loli o'r llyfrau Deian a Loli gan Kate Roberts, sydd bellach yn gyfres deledu boblogaidd. Ond tybed sut mae eu sgiliau hud a lledrith nhw?

Ffynhonnell y llun, Lynwen John

Disgrifiad o'r llun, Pwy sydd wedi gwisgo fel y Ddafad Ddrwg? Megan! (neu Meeegan?!)

Ffynhonnell y llun, Sian Jones

Disgrifiad o'r llun, Dewisodd Tomi a Tara wisgo fel y cymeriadau hudolus Harry Potter a Matilda
Disgrifiad o'r llun, Amser stori... ydi pawb yn gwrando'n astud?
Disgrifiad o'r llun, Tomos a Harri (neu Luigi a Spiderman) yn mwynhau

Ffynhonnell y llun, Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg

Disgrifiad o'r llun, Roedd yna ddigon o gymeriadau gwych a gwallgo' draw yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg

Ffynhonnell y llun, Hollie Locke

Disgrifiad o'r llun, Fel arfer mae'r trôns i fod o dan y trwsus... Gobeithio fod Tomos ddim yn rhy oer, ag yntau wedi gwisgo fel un o'r cymeriadau o'r gyfres Pobl y Pants
Disgrifiad o'r llun, Cafodd Lily, Oliver ac Alys eu hysbrydoli gan eu hoff gymeriadau Roald Dahl - Matilda a Willy Wonka!

Ffynhonnell y llun, Delyth Jones / Ceri Jones

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y brodyr Osian a Gwion lawer o hwyl yn mynd i'r ysgol wedi eu gwisgo fel Henri'r Helynt ac Alun yr Arth yn y Castell - ac fe gafodd Seren Haf ei thrawsnewid i'r Brigddyn mewn gwisg ar-bren-nig!

Ffynhonnell y llun, Ysgol y Gorlan

Disgrifiad o'r llun, Rhai o ddisgyblion Ysgol y Gorlan yn dangos y llyfrau sydd wedi ysbrydoli eu gwisgoedd gwych
Disgrifiad o'r llun, Dau gawr ydi Ollie ac Érinn - y Cawr Mawr Mwyn ar y chwith, a'r Cawr Mwya Crand Yn Y Dre ar y dde

Ffynhonnell y llun, Rhys Williams

Disgrifiad o'r llun, A dyma Gawr Mawr Mwyn hyd yn oed yn fwy. Mae Mr Williams yn dangos nad yw gwisg ffansi yn rhywbeth i'r plant yn unig!

Hefyd o ddiddordeb: