Llun y llyfr: 10 o'r cloriau gorau
- Cyhoeddwyd
Mae angen i gloriau llyfrau gyflawni sawl pwrpas. Gwerthu llyfr, denu darllenydd, cyfleu naws a bod yn gelfyddydol ddeniadol. Byddai rhai'n ei alw'n gelfyddyd ynddo'i hun, ond pa gloriau llyfrau Cymraeg sydd wedi ennill eu plwyf fel clasuron?
Ar mae Cymru Fyw wedi dethol deg clawr trawiadol neu eiconig o'r degawdau diwethaf.
Clawr eiconig i blant y 1980au gan yr artist Jac Jones. © Gwasg Dwyfor
Naws ramantaidd a chynnes sydd i'r clawr cyfoes hwn. © Y Lolfa
Minimol a chosmig yw'r clawr i'r wyddonias glasurol hon. © Gwasg Gomer
Celf Iwan Bala'n tynnu sylw at 'Cyw Haul'. © Y Lolfa
Sawl plentyn sydd ag atgofion melys o lygoden werdd Elwyn Ioan? © Y Lolfa
Cwrw a digrifwch yng nghlasur y Dyn Dwad. © Gwasg Carreg Gwalch
Seicedelia oedd y ffasiwn yn '72. © Gwasg Gomer
Mae clawr 'Y Dydd Olaf' yn sicr yn tynnu sylw.
Llinellau eglur a phalet syml sy'n gwneud y clawr hwn mor drawiadol. © Y Lolfa
Pwy all anghofio gwaith celf Rowena Wyn Jones, dylunydd gwreiddiol llyfrau Sali Mali? © Gwasg Gomer
Beth yw'r clawr sy'n aros yn eich cof chi? Gallwch gysylltu â ni ar cymrufyw@bbc.co.uk neu ar Trydar neu ar ein tudalen .
Gallwch bori drwy filoedd o gloriau llyfrau Cymraeg ar .