75% yn fwy o ddiffibrilwyr yng nghymunedau Cymru

Disgrifiad o'r llun, Diffibriliwr mewn hen giosg ym Mhadog ger Pentrefoelas

Mae cael diffibrilwyr yn y gymuned yn hanfodol i gymunedau gwledig yn ôl Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wrth i ffigyrau ddangos bod 'na gynnydd o dros 75% wedi bod yn y niferoedd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae ffigyrau hefyd yn dangos bod diffibrilwyr wedi cael eu defnyddio 768 o weithiau i helpu pobl oedd wedi cael ataliad ar y galon.

Yn Ionawr 2017 roedd na 1,929 o ddiffibrilwyr mewn cymunedau ac erbyn Ionawr 2019 roedd y ffigwr wedi cynyddu i 3,402.

Mae'r peiriannau bach yn aildanio'r galon ar ôl ataliad.

Disgrifiad o'r llun, Dywed Rhydian Owen, sy'n baramedig ym Mlaenau Ffestiniog, ei bod hi'n bwysig cael diffibrilwyr mewn cymunedau gwledig

Dywedodd Rhydian Owen sy'n baramedig ym Mlaenau Ffestiniog ac yn llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: 'Wrth reswm mewn cymuned gwledig yn enwedig, dydan ni ddim yn mynd i allu cyrraedd pawb o fewn y munudau cyntaf wedi ataliad.

"Felly mae'n hanfodol bwysig bod y cyfleusterau yma ar gael i bobol yn y cymunedau, er mwyn iddyn nhw allu helpu'r bobl yn y munudau cyntaf. Mae'n driniaeth sydd wirioneddol yn gallu achub bywyd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Gall CPR cynnar a diffibrilwyr gynyddu'r posibilrwydd y bydd rhywun yn goroesi ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty.

"Fel rhan o'r Cynllun ar gyfer Ataliad y Galon y Tu Allan i'r Ysbyty, rydym am weld gorchudd da o ddiffibrilwyr ar gael ledled y wlad a phobl sy'n teimlo'n hyderus i'w defnyddio, gyda chefnogaeth partneriaeth Achub Bywydau Cymru a gyhoeddwyd y llynedd.

"Rydym wedi helpu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i osod a hyrwyddo diffibrilwyr ledled Cymru ac yr ydym yn gweithio gydag elusennau i osod rhai newydd."