Â鶹ԼÅÄ

Codi ymwybyddiaeth ar Yr Wyddfa am driniaeth CPR

  • Cyhoeddwyd
Tomos Hughes
Disgrifiad o’r llun,

'Mae gwybod sut i roi triniaeth CPR yn hynod bwysig,' medd Tomos Hughes

"Mae'n bwysig fod pawb yn medru defnyddio diffibrilwyr," dyna fydd neges arbenigwyr iechyd ar gopa'r Wyddfa ddydd Iau.

Hefyd yn bresennol bydd nifer o gleifion sydd wedi dioddef o ataliad y galon ac a gafodd eu hachub gan ddiffibrilwyr.

Yn ddiweddar mae diffibriliwr wedi cael ei osod yng nghaffi Hafod Eryri ar gopa'r Wyddfa a'r hyn sy'n bwysig, meddai Tomos Hughes o 'Achub Calon y Dyffryn' yw "fod pawb ar draws Cymru yn gwybod sut mae ei ddefnyddio a ddim yn ofni chwaith".

"Am bob munud nad yw'r claf yn cael triniaeth mae ei gyflwr yn gwaethygu 10%," dywedodd Tomos, "ac felly mae'n holl bwysig bod diffibriliwr ar gael ymhobman ac hefyd pobl sy'n fodlon ei ddefnyddio."

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'Achub Calon y Dyffryn' wedi gosod dros gant o ddiffibrilwyr ar hyd Cymru erbyn hyn

Mae ffigurau y DU yn dangos mai dim ond 8.6% o gleifion sy'n goroesi ataliad y galon. Yng Nghymru mae'r nifer cyn ised â 3%.

Grŵp gwirfoddol yw 'Achub Calon y Dyffryn' a'r nod ar y dechrau oedd gosod diffibrilwyr mewn cymunedau yn Nyffryn Conwy ac Uwchaled, ond maen nhw bellach wedi ymestyn i siroedd eraill ac wedi gosod dros gant o'r teclynnau ar hyd a lled Cymru.

"Ry'n erbyn hyn wedi cyrraedd ardaloedd Llandeilo a Llanidloes ac ry'n yn annog unrhyw un i gysylltu â ni os am gael diffibriliwr - wir i chi mi all y teclynnau bach 'ma achub bywyd.

"Ry'n ni'n gneud yn siŵr bod y diffibrilwyr o'r safon a ddefnyddir mewn ambiwlans - ac ry'n wedi bod yn ffodus iawn o dderbyn arian gan gymwynaswyr.

'Gwybod sut mae rhoi CPR yn bwysig'

"Bydd e'n grêt gweld cleifion y mae diffibrilwyr wedi achub eu bywydau - i ddweud y gwir nhw eu hunain sydd wedi dod atom i ddiolch i ni."

Yn gwmni i Tomos ar Yr Wyddfa fe fydd dwy nyrs - Julie Starling o Ysbyty Glan Clwyd ac Emma Williams o Ysbyty Gwynedd - mae'r ddwy wedi codi miloedd o bunnau i sicrhau bod digon o ddiffibrilwyr ar draws y Gogledd.

"Mae gwybod sut mae rhoi triniaeth CPR a gwybod pa mor hawdd ac allweddol yw hynny yn hynod bwysig," ychwanegodd Tomos Hughes.