Â鶹ԼÅÄ

Dyfarnwr pêl-droed yn achub bywyd cefnogwr ar ddiwedd gêm

  • Cyhoeddwyd
pedlerFfynhonnell y llun, Mike Pedler
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mike Pedler wedi bod yn dyfarnu gemau pêl-droed ers 2004

Mae dyfarnwr achubodd fywyd cefnogwr pêl droed ar ôl gêm merched Cymru dros y penwythnos yn galw ar i fwy o glybiau i fuddsoddi mewn diffibrilwyr yn eu meysydd.

Roedd Mike Pedler o'r Coed Duon, Caerffili, newydd orffen dyfarnu gêm rhwng merched Caldicot Town a merched Darwen yng Nghynghrair Merched De Cymru cyn iddo achub bywyd un o gefnogwyr y tîm cartref.

Yn y clwb cymdeithasol, fe ddisgynnodd y cefnogwr wrth draed Mr Pedler ac fe sylweddolodd yn syth ei fod wedi dioddef ataliad ar y galon a bod angen triniaeth feddygol frys.

"Fe ddisgynnodd wrth fy nhraed. Roeddwn yn arfer bod yn aelod o dîm meddygol yn y fyddin felly roeddwn yn adnabod y symptomau yn syth," meddai.

"Fe ddechreuais y dechneg o geisio adfywio drwy ddefnyddio CPR. Doedd dim ymateb ac roeddwn yn amau'r gwaethaf."

Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru wedi cadarnhau bod "nod hirdymor i ddarparu diffibrilwyr, adnoddau a hyfforddiant i bob clwb bêl-droed yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, CPD Caldicott Town
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y clwb pêl-droed fuddsoddi £500 i gael y diffibriliwr

Mae clwb Caldicot Town eisoes wedi buddsoddi mewn diffibriliwr ac roedd un ar gael yn y maes.

O fewn ychydig funudau roedd y diffibriliwr yn cael ei ddefnyddio i geisio adfywio'r cefnogwr.

"Fe ddefnyddio ni'r diffibriliwr yn syth. Fe ddechreuodd symud eto ond am yr ail dro fe gollon ni guriad ei galon.

"Roeddem yn parhau gyda'r CPR, a diolch byth fe gyrhaeddodd y parafeddygon ac erbyn hynny roeddem wedi llwyddo i'w adfywio," dywedodd Mr Pedler.

Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach mae'r clwb wedi cadarnhau fod y cefnogwr yn gwella yn yr ysbyty a'i fod yn ddiolchgar iawn i Mr Pedler a phobl eraill am achub ei fywyd.

'Byw a marw'

Yn ôl Mr Pedler roedd y ffaith fod diffibriliwr ar gael yn y maes wedi achub ei fywyd ac mae'n credu dylai pob clwb fod yn buddsoddi yn y peiriant.

"Dwi'n teimlo'n gryf y dylai pob clwb pêl-droed gael mynediad at beiriant diffibriliwr.

"Fe allai unrhyw un cael ataliad ar y galon ar unrhyw amser, ac mae ymateb cyflym yn golygu'r gwahaniaeth rhwng byw a marw," meddai.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth tîm merched Caldicot gystadlu yng Nghynghrair Merched De Cymru ar ôl disgyn o Uwch Gynghrair Cymru y llynedd

Dywedodd Cadeirydd Clwb Pêl Droed Caldicot Town, Wayne Hobbs fod cael y diffibriliwr wedi "profi ar ei ganfed i fod yn ddefnyddiol."

"Mae'r digwyddiad yma wedi profi pa mor bwysig yw cael mynediad at y diffibriliwr.

"Dim ond £500 gostiodd o i'r clwb, ac mae'r peiriant ar gael i'r holl gymuned i'w ddefnyddio mewn argyfwng.

"Mi faswn yn argymell pob clwb yng Nghymru i fuddsoddi mewn un," meddai.

'Darparu diffibrilwyr'

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru: "Yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru, rydym yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi yn iechyd a lles ein pêl-droedwyr a grwpiau cymunedol ehangach sy'n defnyddio cyfleusterau pêl-droed ledled y wlad.

"Ar hyn o bryd mae gan bob clwb Uwch Gynghrair Cymru ddiffibrilwr yn eu meysydd chwarae ond mae sawl clwb pêl-droed a chyfleusterau hyfforddi ledled Cymru heb ddiffibrilwyr wedi'u gosod.

"Er mwyn newid hyn, sefydlodd CBDC bartneriaeth gydag elusen Calonnau Cymru ym mis Mai eleni gyda'r nod hirdymor o ddarparu diffibrilwyr, adnoddau a hyfforddiant i bob clwb bêl-droed yng Nghymru.

"Bwriad y bartneriaeth unigryw hon yw sicrhau y bydd gan bob chwaraewr a chefnogwr ymhob clwb bêl-droed yng Nghymru, boed bach neu fawr, fynediad at ddiffibrilwr achub bywyd yn y dyfodol agos.

"Drwy'r bartneriaeth hon mae'r gymdeithas yn cydweithio â'r elusen i godi arian ar gyfer y gwaith rhagorol y maen nhw'n gwneud dros iechyd y galon.

"Gyda'n gilydd, rydym yn gobeithio bydd yr adnoddau hyn yn lleihau'r niferoedd o ddigwyddiadau erchyll o ataliad y galon sydd wedi digwydd mewn caeau pêl-droed dros Gymru."