Ateb y Galw: Yr actores Rhian Jones

Ffynhonnell y llun, Rhian Jones

Yr actores Rhian Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddi gael ei henwebu gan Catrin Arwel yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Un o fy atgofion cynta' yw mynd 'da'n nhad, oedd yn löwr, i bwll glo Cwmgwili, pan o'n i rhyw bedair oed. Wi'n cofio fe yn mynd â fi o gwmpas, a gweld y locers a'r stafell lle oedd pawb yn newid a'r cawodydd.

Wi'n cofio mynd i'r canteen (siŵr bod Dad wedi mynd â fi i brynu pop a chreision!) a gweld rhai o'i gyd-weithwyr a sylwi eu bod nhw i gyd yn gwisgo colur - eyeliner a masgara…

Wrth gwrs, roedden nhw newydd fod o dan ddaear felly roedd 'da'n nhw'r glo dal i fod o amgylch eu llygaid. Dyna fel oedd fy nhad. Wi'n cofio fe'n dod nôl â glo ar ei ddwylo - rhywbeth, yn amlwg, sydd ddim yn digwydd y dyddie 'ma.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Hawdd - Simon Le Bon neu Matt Dillon. O'n i'n obsessed!

Disgrifiad o'r llun, Roedd Rhian yn ffan o Simon Le Bon a Duran Duran

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae shwt gyment ohonyn nhw, ond dyma un sydd yn hollol cringe.

Dwi'n byw drws nesa' i fynwent, a phan mae angladd yn digwydd, mae'r hers fwy neu lai ar ein drive ni - pan ti'n agor y drws, dyna fe.

Un diwrnod, o'n i rhywsut ddim wedi deall bod 'na angladd, felly dyma ni'n gadael y tŷ 'da'r plant, yn chaos i gyd, a gerddon ni mas ar dyrfa a theulu trist wrth iddyn nhw roi'r arch yn ôl yn yr hers...

Dyma fi yn eu canol nhw yn trio ymddiheuro, yn trio mynd â'r plant a'r holl fagiau, a bygis a paraphernaliayn ôl i'r tŷ. Do'n i'm yn gwybod beth i'w wneud am y gore - mynd i ymddiheuro am y golled, neu jyst mynd o'n na cyn gynted â phosib...!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Nes i lefen penwythnos yma wrth wylio Manchester by the Sea - ond dwi'n crïo yn hawdd mewn unrhyw ffilm - unrhywbeth gyda 'chydig o emosiwn.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Lot gormod!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mae hwn bach o ³¦±ô¾±³¦³óé ond adre' yw e, yn Llanegwad. Dyna lle mae fy nheulu, fy ffrindie. Os dwi'n gweithio yng Nghaerdydd, pan dwi'n gyrru am adre', mae'r stres a'r pwysau yn diflannu. Dwi hefyd wrth fy modd â'r môr, ac mae rhywle ar lan môr yn cael yr un effaith.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Ddim yn cofio am resymau amlwg...!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Obsessive, compulsive, prysur!

Ffynhonnell y llun, E.T.

Disgrifiad o'r llun, Gall Rhian wylio ffilm 'E.T.' eto ac eto - ac mae ei phlant bellach yn ffans hefyd!

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

E.T.- classic! Es i i'w weld e yn y Gerddi Botaneg o dan y sêr yn ddiweddar. Nes i lefen, wrth gwrs - dwi'n llefen bob tro. Dwi'n dwli bod e ddim wedi heneiddio, a ma' mhlant i'n ei joio fe hefyd.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Nes i wylio rhaglen ddogfen ar Robin Williams pnawn ddoe, ac odd e'n anhygoel. Nes i wylio Good Will Hunting yn syth wedyn - ffantastig! Roedd e'n ddyn mor hyfryd. Bydden i wrth fy modd yn mynd mas 'da fe.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Ar fy nhystysgrif geni i, mae'n nhw wedi camsillafu fy enw i, felly fy enw 'go iawn' i yw Ryan Jones!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mae hyn yn nodweddiadol ohona i (ac mae'n siŵr achos bod 'da fi bedwar o blant) - hwfro a glanhau'r tŷ a sicrhau fod popeth yn ei le cyn gadael!

O Archif Ateb y Galw:

Beth yw dy hoff gân a pham?

Pan o'n i a'n chwaer yn blant ac yn pallu dihuno yn y bore, roedd Dad yn chwarae recordiau Johnny Cash yn uchel ar draws y tÅ· nes ein bod ni'n codi.

Roedd e'n dod at y drws a gweiddi canu Ring of Fire - dyna oedd ei gân e. Os dwi a fy chwaer yn clywed Ring of Fire nawr, ry'n ni lan yn sgrechian canu yn syth!

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Dim cwrs cynta'. Chips Mam 'da fillet steak. Wedyn dau bwdin - Victoria Sponge Mam, sy'n anhygoel, ac unrhyw beth siocled.

Disgrifiad o'r llun, Am ddiwrnod fyddai Rhian yn ei gael yng nghwmni George!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Eva Mendes (sy'n briod â Ryan Gosling) neu Amal Clooney (sy'n briod â George Clooney) - a dim am y rheswm fod un yn actores gwych a'r llall yn gyfreithwraig hawliau dynol llwyddiannus, wrth gwrs...! Byddai diwrnod yn ddigon!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Beth Robert