Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Rhian Blythe

  • Cyhoeddwyd
Rhian BlytheFfynhonnell y llun, S4C

Yr actores Rhian Blythe sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos hon. Mi gafodd Rhian, sy'n chwarae rhan Grug Matthews yn Gwaith/Cartref ei henwebu gan .

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mae gen i gof gwael iawn, ac mae Angharad fy chwaer yn dweud mod i'n dwyn ei hatgofion hi!

Ond dwi'n meddwl mod i'n cofio rhywun yn rhoi trwyn coch plastic arna i'n fabi, a theimlo y basai'n well gen i gael yr un oedd Angharad yn ei wisgo.

Mae 'na lun ohono' ni'n gwisgo'r trwynau felly mae'n bosib mai atgof gwneud ydy o.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Brawd mawr un o'm ffrindia' gora… sori Lowri!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Eistedd mewn tafarn efo criw o genod yn siarad (yn ddilornus) am rhywun oedd yn digwydd bod yno ac yn gwrando ar y cyfan (yn ddiarwybod i ni).

Dwi'n cofio teimlo'n sâl o gywilydd ei fod o wedi clywed, a dwi'n lwcus iawn ei fod o wedi maddau a'n bod ni bellach yn ffrindia' da. Mi ddysgais i wers bwysig y diwrnod hwnnw.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Wrth wylio rhaglen am ifaciwis rhyfel yn ddiweddar.

Disgrifiad o’r llun,

Hanes yr ifaciwis yn g'neud i Rhian grio

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Pwdu a phigo 'nhrwyn.

Dy hoff ddinas yn y byd?

Caeredin. Mi wnes i fyw yno am dair blynedd tra mewn coleg drama yno. Lot o atgofion da.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mae 'na gymaint ohonyn nhw ond mi ges i benwythnos perffaith yng Ngŵyl Rhif 6 Portmeirion yn ddiweddar.

Tywydd braf, cwmni hyfryd a dim byd i 'neud ond mwynhau ein hunain, a dawnsio.

Disgrifiad o’r llun,

Fydd Rhian yn dal y bws i Å´yl Rhif 6 eleni tybed?

Oes gen ti datŵ?

Nagoes diolch byth. Mi o'n i isho un o bysgodyn (?!) pan o'n i'n 16, a dwi mor falch na ches i gan Mam.

Beth yw dy hoff lyfr?

'Catch 22' gan Joseph Heller.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Ar y funud leggings maternity- dwi'n feichiog a nhrowsusa' i'n mynd yn rhy dynn.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welais di?

'Theory of Everything', y ffilm am berthynas Stephen Hawking a'i wraig Jane.

Dy hoff albwm?

'Graceland' Paul Simon.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?

Pwdin. Siocled os yn bosib, os gwelwch yn dda.

Disgrifiad o’r llun,

Doedd gan Cymru Fyw ddim amser i bobi cacen siocled i Rhian, felly dyma lun o un i wneud iawn am hynny!

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Tecsd. Dwi ddim yn dda iawn ar y ffôn. Dwi'n mynd yn nyrfys.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Aderyn i mi gael gwbod sut beth ydy hedfan.

Pwy fydd yn Ateb y Galw wythnos nesa'?

Mari Lovgreen.