Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Roy Noble

  • Cyhoeddwyd
Roy Noble

Tro'r darlledwr Roy Noble ydi hi i ateb rhai o gwestiynau busneslyd Cymru Fyw. Cafodd Roy ei , un o'i gyfoedion yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Cerdded dros gat Mam-gu a Da'cu yn nhrwchder yr eira ac yn y nos gweld goleuadau od dros y Mynydd Du... yr Aurora Borealis oedd e nôl yn 1947. Fi'n cofio hefyd tap mawr gartre. Roedd gan mam 'Bosch'... tebyg i sinc mawr ble roedd hi'n gwneud y golchi. Ro'n i hefyd yn cael bath yn y 'Bosch' felly dyna pam wy'n cofio'r tap mawr mae'n siŵr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Mynydd Du yn Sir Gar yn agos iawn at galon Roy

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Maureen Timothy, 'Carnival Queen' Dyffryn Aman. Roedd hi yn yr ysgol 'da fi. Roedd hi'n ferch ffein, merch hynod o neis. Ond do'dd dim gobeth da fi... aeth hi off da boi oedd fel tarw yn chwarae rygbi!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Pan yn 14 gwmpes i oddiar do'r tÅ·. Roedd y diagnosis cyntaf yn awgrymu mod i wedi torri dwy fraich, un goes a bod gen i fractured skull. Ond wedi deall, wedi torri dau arddwrn oeddwn i. Ond bryd hynny roedd rhaid gosod plaster i dop y breichie am o leiaf 6 wythnos.

Meddyliwch. Do'n i ddim yn gallu g'neud unrhyw beth gyda fy mreichie na fy nwylo... dim byd! Felly roedd yn rhaid i nyrs fy helpu bob tro yr oeddwn i angen llenwi'r botel. Roedd gorfod cael yr help yma i fachgen 14 oed yn embaras mawr iawn.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Llefen go iawn ar ôl marwolaeth fy mam. Es i lan ar y Mynydd Du wrth fy hunan. Hefyd ges i brofiad emosiynol y llynedd pan ges i'r fraint o gymryd rhan yn y digwyddiad i gofio canmlwyddiant trychineb Senghennydd.

Roeddwn i wedi bod yn athro yn y pentre ac ro'dd nifer o'r teuluoedd wedi colli aelod o'r teulu yn y ddamwain fawr yn 1913. Roed na ganno'dd o bobl ar y bryn ac wrth i mi ddweud yr hanes cafodd yr hen hwter wreiddiol ei chanu. Roedd hi'n anodd i mi gadw popeth ynghyd wedi hynny a chadw'r dagrau draw.

Disgrifiad o’r llun,

Y gofeb genedlaethol yn Senghennydd i gofio glowyr Cymru gollodd eu bywydau mewn trychinebau yn y pyllau. Roedd tad-cu Roy yn eu plith. Fe gollodd e ei fywyd ym mhwll y Steer, Gwauncaegurwen pan roedd y darlledwr yn saith oed.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Fi'n ffaelu taflu pethau bant. Rwy'n dipyn o 'hoarder'. Cyn heddi ma' fy ngwraig wedi taflu pethe i'r bin a dwi wedi mynd yn ôl i'w hachub nhw!

Dy hoff ddinas yn y byd?

Fienna. Dinas a naws frenhinol dros ben. Rwy'n cofio mynd yno ar ddiwedd y rhyfel ac roedd e fathe rhywbeth allan o 'Tinker Tailor Soldier Spy'. Roedd gan y Rwsiaid, Yr Americanwyr 'hotels' iddyn nhw eu hunain ond yn cymdeithasu trwy ymweld â phob gwesty yn ei dro.

Roedd yna gacennau hyfryd i'w cael yno hefyd ac rwy'n hoff iawn o gerddoriaeth Johann Strauss 'Brenin y Waltz'.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Geni'r mab. Roedden ni wedi bod orie yn yr ysbyty. Roedd yn rhaid i fy ngwraig gael caesarean yn y diwedd. Adeg hynny doedd tadau ddim yn cael bod yn bresennol felly roeddwn i'n disgwyl y tu fas. Ond ar ôl i Richard gael ei eni roedd y tîm meddygol wedi gorfod ymateb i argyfwng arall... felly bues i'n eistedd am ddwy awr cyn i unrhyw un ddweud wrtha i fod gen i fab.

Oes gen ti datŵ?

Nagoes. Gormod o amser gyda'r chwaraewr pêl-droed 'ma i lenwi eu breichiau da thatŵs. Pan o'n i'n blentyn dim ond llongwyr oedd yn cael tatŵ, a bryd hynny angor oedd e bron bob tro.

Beth yw dy hoff lyfr?

Wiliam Jones gan T Rowland Hughes. Rwy'n cofio ei darllen yn yr ysgol ramadeg. Mi wnaeth gryn argraff arna i. Hefyd rwy'n ffan mawr o Robert Louis Stevenson, fel storïwr, yn enwedig 'Kidnapped'.

Stori am rebel o Albanwr yng nghyfnod Bonnie Prince Charlie sy'n cael ei erlid ar draws mynyddoedd yr Alban gan y Saeson. Hefyd 'All Quiet on the Western Front' gan yr Almaenwr Erich Maria Remarque. Be rwy'n hoffi am hon yw ei fod e'n profi bod milwr cyffredin o'r Almaen yn gwmws 'run fath a milwyr Prydain.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

'Trenchcoat', ond fe symudon ni dÅ· ac rwy bellach yn gorfod byw hebddi! Do'dd y wraig ddim yn ei hoffi felly 'naeth hi gael ei gwared hi. Hefyd rwy'n ddyn teis mawr.

Dros y blynydde' rwy' wedi bod yn ŵr gwadd mewn sawl clwb rygbi a 'dwi ddim yn cael gadael heb iddyn nhw gyflwyno tei i mi. Weithia byddai'n mynd nôl i'r un clwb ac erbyn hynny bydd y tei wedi newid! Felly mae tua 400 yn y casgliad erbyn hyn.

Disgrifiad o’r llun,

"Ma' hi'n o'r! Gallen i wneud da'r 'trenchcoat' 'na!

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welais di?

'Pride'. Nabod Onllwyn yn dda iawn. Gas fy nhad-cu ei ladd yn y pwll glo ac roedd fy nhad yn löwr, felly roedd hanes y cymorth roddodd y gymuned hoyw i lowyr Onllwyn a'u teuluoedd yn streic fawr 1985 yn rymus iawn.

Dy hoff albwm?

Rwy'n hoff iawn o bob math o gerddoriaeth. Mae'n dibynnu ar sut rwy'n teimlo ar y pryd. Rwy'n hoff iawn o Dafydd Iwan (rhaid dweud hynna - ro'n i yn yr ysgol 'da fe!) a chanu gwlad, ond os oes rhaid dewis un yna un o 'albums' Neil Diamond amdani. Wedi dweud hynny, rwy'n 'itha da am ganu 'Gypsy Woman' gan Don Williams ar ôl cwpl o beints!

Cwrs cyntaf, prif gwrs 'ta pwdin?

Prif gwrs. Cinio dydd Sul. Ond rwy'n credu bo 'na fwlch yn y farchnad i 'restaurants' sy'n cynnig 'starters' a phwdin yn unig. Weithie does dim angen pryd mawr arnoch chi!

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Ffonio bob tro. Mor rhwydd.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Barack Obama. Jyst i helpu fe mas damed bach! Mae angen dod â synnwyr cyffredin yn ôl i fywyd.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Dafydd Hywel.

Disgrifiad o’r llun,

"Ie Roy... deall yn iawn... tamed o synnwyr cyffredin!"