Â鶹ԼÅÄ

Dysgwr y Flwyddyn 2018: Adnabod Nicky Roberts

  • Cyhoeddwyd

Wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd bydd enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2018 yn cael ei gyhoeddi. Unwaith eto eleni, pedwar sydd wedi dod i'r brig.

Mae Cymru Fyw wedi bod yn eu holi i ddod i'w hadnabod yn well.

Disgrifiad,

Dysgwr y Flwyddyn 2018: Adnabod Nicky Roberts

Yn wreiddiol o Gwm Rhondda, symudodd Nicky Roberts i Aberystwyth y llynedd er mwyn gallu byw ei fywyd yn y Gymraeg.

Dewisodd Nicky astudio Technoleg Gwybodaeth yn hytrach na Chymraeg yn yr ysgol, gan ei fod yn awyddus i weithio ym maes TG.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, tra roedd allan yn Ffrainc adeg gemau'r Ewros yn 2016, penderfynodd y dylai fynd ati i ddysgu'r iaith.

Beth yw dy hoff air Cymraeg?

Dwi'n ffan o eiriau gallwch eu defnyddio er mwyn swnio fel chi'n gwybod beth dych chi'n sôn am, fel fframwaith, sylweddoli neu ensyniad.

Bydd geiriau fel rhain yn gwneud unrhyw un swnio yn well.

Dych chi methu curo 'crempog' chwaith!

Oes yna gamgymeriad ti wastad yn gwneud?

Dwi'n gwneud camgymeriadau bob dydd fel pawb arall i dd'eud y gwir. Mae'n rhan o'r broses, ond os oes rhaid i fi ddewis un, am ryw reswm bydda i wastad yn cymysgu "mynnu" a "honni", er eu bod yn hollol wahanol!

Pa berson wnaeth dy ysbrydoli i ddysgu Cymraeg?

Es i'r Euros yn ystod Haf 2016 ac yn ystod hanner amser yn y gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon yn yr ail rownd, dywedodd y boi 'ma, yn yr acen mwya' 'Gwyneddaidd' yn y byd - "T'isho help efo hwnna" pan oeddwn i'n trio cario fy niodydd yn ôl i fy sedd.

Ar y bryd hynny, doeddwn i ddim yn medru siarad yr iaith o gwbl, felly oeddwn i'n teimlo yn embaras iawn!

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nicky Roberts yn dweud fod treigliadau yn gwneud yr iaith Gymraeg yn 'unigryw'

Roedd y boi yna'r union reswm des i adre a dechrau dysgu'r iaith ym mis Rhagfyr 2016.

Yn anfoddus dwi methu cofio'r dyn nawr, ond bob tro rydym wedi mynd dramor i gefnogi'r tîm pêl-droed, dwi wedi trio ei ffeindio fe eto i ddiolch iddo.

Beth yw dy farn di am bobl sy'n cywiro dy Gymraeg?

Mae rhai pobl yn wahanol, ond rhaid i fi ddweud bod dwi ddim yn hoffi e pan fydd rhywun ddweud wrth i fi "Wyt ti'n meddwl i ddweud 'rhywbeth' yn lle 'rhywbeth'.

Weithiau mae hynny yn brifo mwy na mae'n helpu.

Dwi'n ystyried fy hun i fod yn siaradwr Cymraeg rhugl dyddiau hyn felly does dim ots gyda fi erbyn nawr.

Beth yw dy farn am y treigliadau?

Dwi wrth fy modd gyda threigladau!

Mae'n nhw'n helpu gwneud yr iaith yn unigryw, ac hefyd, dyw treigladau ddim yn anodd iawn i ddweud y gwir - os dych chi'n cael treiglad yn anghywir, paid â becso o gwbl, caria 'mlaen - siŵr o fod fydd neb yn sylweddoli!

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae pedwar yn cystadlu yn y ffeinal eleni

Sut wnei di ddathlu os ti'n ennill?

Bydd e'n dibynnu ar pa amser bydd y seremoni yn gorffen!

Os bydd e'n gorffen yn gynnar, af i yn ôl i Lwyfan y Maes er mwyn gwylio y band 'Yr Eira' yn chwarae, os ddim - bydda i'n mynd am ychydig o ddiodydd 'tawel' yng Nghlwb Ifor Bach!

Pa emoji wyt ti?

[Mae'n gwirio ei ffôn] Dwi'n eithaf diflas gyda emojis yn anfoddus, felly gadewch i fi wirio... Chi methu curo'r dyn gyda sbectol haul! Dyna'r emoji i fi.

Beth yw'r frawddeg mwyaf rhyfedd ti 'di gweld mewn llyfr dysgu Cymraeg?

Dwi'n cofio achos gwnes i dynnu llun!

"Croeso i Lambed, paid â bod ofn, bydd popeth yn iawn!"

Dwi'n byw yn eithaf agos i Lambed, ac mae'r dref yn hyfryd! Felly dwi ddim yn gwybod o le daeth hwnna?!