Â鶹ԼÅÄ

Dysgwr y Flwyddyn 2018: Adnabod Matt Spry

  • Cyhoeddwyd

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd bydd enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2018 yn cael ei gyhoeddi. Unwaith eto eleni, pedwar sydd wedi dod i'r brig.

Mae Cymru Fyw wedi bod yn eu holi i ddod i'w hadnabod yn well.

Disgrifiad,

Dysgwr y Flwyddyn 2018: Adnabod Matt Spry

Yn wreiddiol o Aberplym, mae Matt Spry yn byw yng Nghaerdydd ers pum mlynedd, ac yn dysgu Cymraeg ers 2015, ac yn bwriadu sefyll yr arholiad Uwch y flwyddyn nesaf.

Mae'n gweithio i Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd fel tiwtor-drefnydd, ac yn gyfrifol am drefnu cyrsiau a dysgu Cymraeg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n byw yng Nghaerdydd.

Beth yw dy hoff air Cymraeg?

Ysbigoglys! A dw i'n hoff iawn o fwyta ysbigoglys hefyd!

Oes yna gamgymeriad ti wastad yn gwneud?

Mae gen i un camgymeriad eitha' newydd sef dechrau sgwrsio gyda rhywun wrth ddefnyddio 'chi' ac wedyn newid i 'ti' ac wedyn yn ôl i 'chi' yn yr un sgwrs!

Pa berson wnaeth dy ysbrydoli i ddysgu Cymraeg?

Fy nhiwtor Cymraeg cyntaf, Annest Wheldon o Lanrwst.

Roedd ei hangerdd dros yr iaith yn amlwg a chafodd hyn effaith fawr arno i.

Gwnaeth hyn i fi eisiau bod yn rhugl a defnyddio'r iaith ymhob agwedd o'm bywyd a chwympais i'n syth mewn cariad â'r iaith.

Pobl wnaeth brwydro ac ymgyrchu dros amddiffyn yr iaith a chymunedau Cymraeg a dros hawliau ieithyddol siaradwyr Cymraeg, yn enwedig aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a phobl sy'n dal i frwydro ac ymgyrchu.

Cerddoriaeth Cymraeg yn enwedig yr albymau Mwng gan Super Furry Animals, Yr Atal Genhedlaeth gan Gruff Rhys, Bwyd Time gan Gorky's Zygotic Mynci a Bore Da gan Euros Childs.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae pedwar yn cystadlu yn y ffeinal eleni gan gynnwys Matt Spry (ail o'r dde)

Beth yw dy farn di am bobl sy'n cywiro dy Gymraeg?

Dwi wastad eisiau gwella fy Nghymraeg felly does dim ots 'da fi pan fydd rhywun yn fy nghywiro i. Ond y peth sy'n bwysig yw annog mwy o bobl i ddefnyddio'r iaith ymhob agwedd o'u bywydau, hyd yn oed os ydyn nhw'n gwneud camgymeriadau neu newydd ddechrau dysgu.

Mae'n iawn i gywiro pobl ond peidiwch â bod yn feirniadol.

Gall hyn ddinistrio hyder ac achosi pobl i roi'r gorau i ddysgu. Rhaid cynnig anogaeth, nid beirniadaeth, ac mae'n rhaid gwneud camgymeriadau wrth ddysgu unrhyw beth a dwi'n hoff iawn o'r ymadroddion 'Gwell Cymraeg slac na Saesneg slic'.

Beth yw dy farn am y treigliadau?

Dwlu arnyn nhw! Ond ces i drafferth pan o'n i newydd ddechrau dysgu Cymraeg wrth chwilio am eiriau yn fy ngeiriadur!

A dweud y gwir maen nhw'n ychwanegu at y pleser o ddysgu Cymraeg.

Rhan annatod yr iaith ydyn nhw.

Dwi hefyd yn credu bod ni'n gwneud gormod o ffỳs ohonyn nhw wrth siarad am beth sy'n anodd am ddysgu Cymraeg - maen nhw'n bodoli yn ieithoedd eraill!

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae Matt Spry yn dweud ei bod yn iawn i gywiro pobl sy'n dysgu'r iaith ond "peidiwch â bod yn feirniadol"

Es i i gynhadledd ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn cwpl o fisoedd yn ôl. Roedd cyflwyniad gan Ifor ap Glyn ac roedd e'n siarad am dreigladau yn Saesneg gan ddefnyddio enghraifft y gân 'I Wanna Hold Your Hand' gan The Beatles.

Dylen nhw fod wedi canu 'I Want To Hold Your Hand' ond 'dyn ni'n treiglo yn Saesneg hefyd i wneud pethau'n haws i'w dweud.

Dy'n nhw ddim yn rhan ffurfiol o ramadeg Saesneg ond maen nhw'n bodoli. Enghraifft arall yw 'I dunno' yn lle 'I don't know'.

Sut wnei di ddathlu os ti'n ennill?

Wna i gael pryd o fwyd yn y caffi Eritreaidd newydd ar Fforddlydan, Waunadda, Caerdydd a gwahodd y ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n dysgu Cymraeg i ymuno â fi.

Wna i ddefnyddio ychydig o'r arian i brynu llyfrau i ddysgwyr er mwyn eu rhoi nhw i'r ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n dysgu Cymraeg.

A phrynu rhywbeth bach i fi fy hun - llyfr Cymraeg siŵr o fod! Efallai penwythnos hir yng Nghaernarfon - dw i'n dwlu ar Gaernarfon a'r Cofis!

Pa emoji wyt ti?

Baner Cymru a baner Eritrea.

Beth yw'r frawddeg fwyaf rhyfedd ti 'di gweld mewn llyfr dysgu Cymraeg?

'Na, ond dydy e ddim wedi ffrwydro, a dydyn ni ddim yn yr ysbyty.'

'Oes rhaid i ni gael blaidd? Pam dydyn ni ddim yn gallu cadw ci fel pawb arall?'

'Dydw i ddim hanner da. Mae sŵn tebyg i Radio Cymru yn fy nghlust i o hyd.'