Â鶹ԼÅÄ

Pump yn cystadlu am deitl Dysgwr y Flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Dysgwr y FlwyddynFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Mae pump o ddynion wedi dod i'r brig yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni.

Ddydd Sadwrn cynhaliwyd rownd gynderfynol y gystadleuaeth yn yr Hen Lyfrgell, a'r pump fydd yn cystadlu yn y rownd derfynol fydd Steve Dimmick, Caerdydd, Mihil Patel, Caerdydd, Yankier Pijeira Perez, Llanrug, Nicky Roberts, Aberystwyth a Matt Spry, Caerdydd.

Roedd 23 o ymgeiswyr i gyd, ac yn ôl yr Eisteddfod Genedlaethol dyma "un o'r niferoedd uchaf dros y blynyddoedd diwethaf."

Dyma ydy'r trydydd tro yn hanes y gystadleuaeth i bump o bobl gael eu dewis ar gyfer y rownd derfynol.

Bydd seremoni Dysgwr y Flwyddyn yn digwydd nos Fercher 8 Awst yn Y Dosbarth, Coleg Caerdydd a'r Fro.

Meddai Elen Elis, Trefnydd yr Eisteddfod, "Mae mor braf gweld cynifer o ymgeiswyr yn y gystadleuaeth eleni, ac rydym yn edrych ymlaen yn arw i ddod i adnabod y pump sydd wedi dod i'r brig yn well, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y rownd derfynol yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni.

"Rydym yn llongyfarch pob un ymgeisydd yn wresog, ac yn diolch iddyn nhw, nid yn unig am gystadlu ond am eu hymroddiad i'r iaith a'n diwylliant. Dymuniadau da i bob un ohonyn nhw yn y dyfodol."

Y beirniaid eleni yw Lowri Bunford Jones, Carole Bradley a Lowri Haf Cooke.

DEWCH I GWRDD Â'R PUMP

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

STEVE DIMMICK

Yn wreiddiol o Blaina, Blaenau Gwent, mae Steve Dimmick yn byw yng Nghaerdydd, yn dad i dri o blant ac yn gyfarwyddwr cwmni technolegol.

Ar ôl dechrau dysgu Cymraeg mewn dosbarth nos yn Llundain ac yna yng Nghaerdydd, fe aeth Steve am wythnos i Nant Gwrtheyrn, ac mae'n grediniol i'r wythnos honno newid ei fywyd.

Erbyn heddiw, mae'n defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol, ac mae'n dweud bod ei angerdd dros yr iaith a Chymru yn llywio'i fywyd bob dydd.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

MIHIL PATEL

Daw Mihil Patel o Fryste'n wreiddiol, ond erbyn hyn mae'n byw yng Nghaerdydd ac yn astudio ar gyfer doethuriaeth ym maes Imiwnoleg a Firoleg.

Ar ôl treulio prynhawn yng ngŵyl Tafwyl un flwyddyn, penderfynodd Mihil fynd ati i ddysgu Cymraeg, ar ôl iddo weld fod yr iaith yn rhywbeth byw, cyffrous a pherthnasol iddo fo.

Dilynodd gwrs Say Something in Welsh ac mae hefyd yn mynychu dosbarth Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

YANIKER PIJEIRA PEREZ

Er mai yn Ciwba y cafodd Yankier Pijeira Perez ei eni, fe symudodd i Gymru i fyw yn 2011, ac mae e a'i wraig Lowri a'r teulu'n byw yn Llanrug, Gwynedd ar hyn o bryd.

Pan symudodd i Gymru, aeth ati i ddysgu'r iaith gan fod y Gymraeg yn rhan bwysig iawn o'i gymuned leol.

Mae'n Dechnegydd Fferyllfa yn Ysbyty Gwynedd, ac mae'n dweud ei fod yn ffodus i gael cymaint o gyfleoedd i siarad Cymraeg gyda'i deulu, yn y gymuned ac yn y gwaith,

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

NICKY ROBERTS

Symudodd Nicky Roberts a'i wraig, Lara, i Aberystwyth y llynedd er mwyn gallu byw eu bywydau yn y Gymraeg.

Yn wreiddiol o Gwm Rhondda, dewisodd Nicky astudio Technoleg Gwybodaeth yn hytrach na Chymraeg yn yr ysgol, gan ei fod yn awyddus i weithio ym maes TG.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, tra roedd allan yn Ffrainc adeg gemau'r Ewros yn 2016, penderfynodd y dylai fynd ati i ddysgu'r iaith. Erbyn hyn, mae wedi bod yn dysgu Cymraeg am flwyddyn a hanner.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

MATT SPRY

Yn wreiddiol o Aberplym, Dyfnaint, mae Matt Spry yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio i Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd fel tiwtor-drefnydd, ac yn gyfrifol am drefnu cyrsiau a dysgu Cymraeg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Dywed fod dysgu Cymraeg wedi bod o gymorth mawr iddo dros y blynyddoedd diwethaf a bod yr iaith wedi newid ei fywyd yn gyfan gwbl.

Ei uchelgais yw parhau i weithio fel tiwtor Cymraeg gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches.