Â鶹ԼÅÄ

Dysgwr y Flwyddyn 2018: Adnabod Steve Dimmick

  • Cyhoeddwyd

Wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd bydd enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2018 yn cael ei gyhoeddi. Unwaith eto eleni, mae pedwar wedi dod i'r brig - roedd yna bump yn wreiddiol ond mae un wedi tynnu nôl am resymau personol.

Mae Cymru Fyw wedi bod yn eu holi i ddod i'w hadnabod yn well.

Disgrifiad,

Dysgwr y Flwyddyn 2018: Adnabod Steve Dimmick

Yn wreiddiol o Blaina, Blaenau Gwent, mae Steve Dimmick yn byw yng Nghaerdydd ac yn dad i dri o blant ac yn gyfarwyddwr cwmni technolegol.

Ar ôl dechrau dysgu Cymraeg mewn dosbarth nos yn Llundain ac yna yng Nghaerdydd, dywed Steve fod wythnos yn Nant Gwrtheyrn wedi newid ei fywyd.

Beth yw dy hoff air Cymraeg?

Cwestiwn da, fy hoff air Cymraeg y byddwn i'n dewid fyddai 'dyfodol' - oherwydd fy mod yn berson sy'n edrych ymlaen.

Oes yna gamgymeriad ti wastad yn gwneud?

Yn sicr, dweud 'oes', 'ia', 'iawn', 'yndw' neu 'do' wrth ateb pobl.

I fod yn onest, mae 'na ormod o fersiynau o'r gair yes!

Pa berson wnaeth dy ysbrydoli i ddysgu Cymraeg?

Fy nghyn-wraig, Elin nôl yn 2001.

Roedd hi'n hollol angerddol ac yn gefnogol iawn.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae pedwar yn cystadlu yn y ffeinal eleni

Beth yw dy farn di am bobl sy'n cywiro dy Gymraeg?

Mae bywyd yn rhy fyr i boeni am bethau fel hynny.

Dwi'n credu fod pobl sy'n cywiro fy iaith yn dweud mwy am eu ansicrwydd nhw eu hunain, na'm diffygion i.

Beth yw dy farn am y treigliadau?

Dwi'n caru nhw.

Dwi'n caru cael nhw'n anghywir ond maen nhw'n rhywbeth sy'n gwneud ein hiaith yn beth yw hi heddiw.

Felly pam lai dathlu nhw?

Sut wnei di ddathlu os ti'n ennill ?

Cwtchys mawr gyda fy mlant ac wedyn rhannu cwpl o beintiau gyda Nicky, Matt a Yankier (y tri arall yn y rownd derfynol).

Pa emoji wyt ti?

Y Ddraig Goch, diolch i Owen Williams, cyn-weithiwr gyda'r Â鶹ԼÅÄ mae'r Ddraig Goch bellach ar gael fel emoji.

Beth yw'r frawddeg mwyaf rhyfedd ti 'di gweld mewn llyfr dysgu Cymraeg?

'Mae cleddyf Olwen ar y wal'.