Â鶹ԼÅÄ

Brexit: Pwyso am 'fynediad ffafriol' i'r farchnad sengl

  • Cyhoeddwyd
brexit

Mae grŵp o ACau wedi rhybuddio na ddylai Brexit olygu fod Cymru'n rhoi'r gorau i fod yn wlad sy'n falch o'i chysylltiadau rhyngwladol.

Mewn adroddiad fydd yn cael ei lansio ym Mrwsel yn hwyrach mae Pwyllgor Materion Allanol y Cynulliad yn galw hefyd ar i Lywodraeth Cymru i bwyso am "fynediad ffafriol" i farchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU er mwyn parhau i gael mynediad i'r farchnad sengl ac i fod yn rhan o'r undeb dollau.

Mae'r adroddiad - Perthynas Cymru ag Ewrop yn y Dyfodol - yn rhybuddio "na ddylai Brexit olygu symud oddi wrth draddodiad Cymru fel gwlad sydd yn falch o'i chysylltiadau rhyngwladol, ac fe fydd perthynas Cymru ac Ewrop yn parhau i fod yn bwysig pan fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd".

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, David Rees: "Er bod Cymru yn gadael yr UE fel mae'r DU, nid ydym ni yn gadael Ewrop.

"Allwn ni ddim troi cefn ar 45 mlynedd o gyd-weithio ac integreiddio, beth bynnag fydd canlyniad Brexit."

'Effaith negyddol'

Wrth drafod y dyfodol ar gyfer cytundeb masnach rhwng y DU a'r UE, fydd yn cael ei negodi gan weinidogion Llywodraeth y DU, mae'r pwyllgor yn dweud: "Mae'r neges i Lywodraeth y DU yn glir o'r dystiolaeth sydd wedi ei roi i ni.

"Fe fyddai effaith negyddol i Gymru o beidio â sicrhau mynediad i'r farchnad heb unrhyw rwystr.

"Ein hargymhelliad ni yw bod Llywodraeth Cymru yn negodi gyda Llywodraeth y DU i sicrhau fod mynediad ffafriol i'r farchnad, sy'n rhydd o unrhyw rwystr trethiannol neu ddi-dreth, yn flaenoriaeth ar gyfer y trafodaethau ar ddyfodol perthynas y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd."

Yn ei haraith yn Mansion House dywedodd y Prif Weinidog, Theresa May, y byddai mynediad i'r farchnad sengl yn y dyfodol yn "llai nag oedd ar hyn o bryd".

Mae Mrs May hefyd wedi dweud fod Llywodraeth y DU am adael yr undeb dollau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "wastad wedi ac am barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am yr angen i barhau i gael mynediad dilyffethair i'r farchnad sengl ac i fod y rhan o'r undeb dollau".

"Byddwn yn ystyried adroddiad y pwyllgor ac yn darparu ateb ffurfiol mewn amser."

Yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad fe fydd y pwyllgor yn dechrau ar eu gwaith o lunio ail adroddiad fydd yn canolbwyntio ar y farn o Ewrop.