Â鶹ԼÅÄ

Brexit: 'Dylid cael ail gyfle' medd Ann Clwyd

  • Cyhoeddwyd
Ann Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Ann Clwyd yn awgrymu bod angen ail refferendwm ar Brexit

Mewn cyfweliad ar Radio Cymru mae Ann Clwyd, aelod seneddol Cwm Cynon, wedi awgrymu y dylid cael ail refferendwm ar Brexit fel bod pobl yn cael ail gyfle.

Wrth gael ei holi gan Dewi Llwyd dywedodd Ms Clwyd "nad oedd pobl yn deall goblygiadau Brexit adeg y refferendwm.

"Dwi'n cofio sefyll ar y stryd ym Mhenrhiw-ceibr cyn y refferendwm a gofyn i bobl sut oeddwn nhw am bleidleisio a pobl yn dweud wrtha i what's in it for us? A minnau yn dweud 'look around you, that bridge, that road, that school that would not have happened without EU backing'.

"Dwi ddim yn gwybod yr ateb oni bai ein bod yn cael refferendwm arall... dwi'n meddwl ddylai fod y bobl yn cael ail gyfle."

Nos Wener cafodd Owen Smith Llafur gan Jeremy Corbyn wedi iddo ysgrifennu erthygl ym mhapur newydd y Guardian yn galw am ail bleidlais ar ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.

Mae Mr Smith, a oedd yn llefarydd Llafur ar Ogledd Iwerddon, yn dweud bod Jeremy Corbyn wedi gwneud "camgymeriad" wrth ei ddiswyddo a'i fod wedi e [Mr Smith] wedi pan alwodd am ail refferendwm ar Brexit.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Owen Smith ei ddiswyddo o fainc flaen Llafur wedi iddo alw am ail refferendwm ar Brexit

Yr wythnos hon roedd Ann Clwyd yn dathlu ei phen-blwydd ac mewn sgwrs i nodi'r achlysur dywedodd wrth gyfeirio at Brexit: "Pan o'n i'n meddwl dechrau flwyddyn diwethaf be fedra i wneud yn y sefyllfa yma, a'r llywodraeth yn benderfynol o wthio Brexit drwodd es i â deiseb i'r senedd Ewropeaidd.

"Mae wedi mynd drwy dri pwyllgor y senedd Ewropeaidd erbyn hyn. Dwi'n benderfynol ein bod ni ddim yn cael Brexit. Dwi'n parhau i weithio i'r perwyl hwnnw.

"Fel da ni'n gwybod yn economaidd fe fydd yn ddrwg i'r wlad yma... i Gymru ac i'r ardaloedd fel yr ardaloedd dwi'n gynrychioli fydd Brexit yn ddifrifol iawn.

"Mater o gydweithio ar sawl peth efo gwledydd eraill sy'n bwysig - mae lluchio hynna i ffwrdd yn hurt."

'Marw cyn cael diagnosis'

Bu Ann Clwyd hefyd, yn ystod ei chyfweliad â Dewi Llwyd, yn rhoi ei barn am y gwasanaeth iechyd gan ddweud ei bod yn siomedig "nad yw pethau wedi gwella ers datganoli".

Dywedodd: "Mae rhai pynciau fel iechyd... 'dan ni ddim yn cael trafod o ar lawr Ty'r Cyffredin oherwydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am iechyd ac addysg a rhai pethau eraill a dwi'n ffindio hynny yn dipyn o broblem.

"Ges i'r cymariaethau Diagnostic Waiting Times - cymharu Cymru, Lloegr a'r Alban a mae Cymru ymhell ar ei hôl hi.

"Mae pobl yn gorfod aros misoedd yn hirach nag yn Lloegr, a 'di hynna ddim yn deg.

"Oedd datganoli ddim i fod am wasanaeth iechyd gwaeth yng Nghymru nac yn Lloegr a mae hynna yn fy ngwylltio i.

"Di o ddim yn deg fod pobl yng Nghwm Cynon yn marw cyn cael diagnosis.

"Dim ots o dan ba lywodraeth mae o, mae o'n warthus."

Wrth gael ei holi a oedd hi'n teimlo fod datganoli wedi bod yn fethiant ym maes iechyd dywedodd: "Wel ydw wrth gwrs mod i - dyna'r siom a nes i weithio mor galed ac unrhyw un dros Ddatganoli .

"Ond 'di pethau ddim i fod yn waeth mewn un rhan a dwi wedi siarad efo'r penaethiaid i gyd yn y Cynulliad ynglyn â hyn a dwi ddim yn fodlon â'r atebion."

Cafodd y cyfweliad ei ddarlledu ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul am 08:30 ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru. Mae modd gwrando ar y rhaglen eto drwy glicio yma.