Â鶹ԼÅÄ

Ymgyrchwyr Cymreig hawliau Brexit: 'Dal yn yr unfan'

  • Cyhoeddwyd
brexit

Mae ymgyrchwyr Cymreig ar gyfer diogelu hawliau dinasyddion ar ôl Brexit yn dweud eu bod yn "dal yn yr unfan" er gwaethaf datganiadau trafodwyr y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd.

Mae'r cytundeb diweddaraf rhwng Llundain a Brwsel wedi'i gynllunio i ddiogelu hawliau pobl Cymru a dinasyddion yr UE tan ddiwedd 2020.

Ond mae ymgyrchwyr yn dweud y byddai'n golygu bod ganddynt lai o hawliau.

Dywedodd Llywodraeth y DU fod cytundeb yr wythnos ddiwethaf yn "rhoi sicrwydd i ddinasyddion".

Disgrifiad,

Mae ansicrwydd yn bodoli yn sgil Brexit medd Heledd Pritchard o Ynys Môn

Mae'n cynnwys ymrwymiad y bydd dinasyddion yr Undeb sy'n cyrraedd y DU yn ystod y cyfnod trosglwyddo - rhwng 29 Mawrth 2019 a 31 Rhagfyr 2020 - yn cael yr un hawliau a gwarantau a'r rhai sy'n cyrraedd cyn Brexit.

Fe fydd y sefyllfa'r union yr un peth ar gyfer y Cymry sydd yn byw ar y cyfandir.

'Bywydau pobl, nid gwleidyddiaeth'

Ond mae Debbie Williams, sylfaenydd y grŵp ymgyrchu 'Brexpats - Hear Our Voice', yn dweud ei bod yn parhau i fod yn "siomedig".

Yn wreiddiol o Lanelli, mae'r ddynes 55 oed wedi byw yn Yr Hag yn Yr Iseldiroedd gyda'i gwr a'i merch am ychydig dros flwyddyn ac yn Ewrop am gyfanswm o 12 mlynedd.

Dywedodd: "Yr hyn yr hoffem ni, a'r hyn yr ydym wedi bod eisiau ers y cychwyn yw bod hawliau dinasyddion yn cael eu cymryd allan o'r trafodaethau, bod nhw wedi'u neilltuo, bod y rhai ohonom sydd yma yn cael ein hawliau wedi eu gwarchod y tu hwnt i'r trafodaethau eraill - yr holl hawliau sydd gynnon ni'n byw yn yr Undeb Ewropeaidd a hawliau dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU.

"Bywydau pobl sydd wrth wraidd y trafodaethau yma nid gwleidyddiaeth.

"O ran ein hawliau, ry'n ni dal yn yr unfan. Dyna be dwi am i bobl ystyried. Does gynnon ni ddim llais. Ry'n ni ar wasgar ar draws gwledydd yr Undeb ac felly mae wedi bod yn eithaf caled," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Debbie, Chris a Molly Williams wedi bod yn byw yn Yr Hag yn Yr Iseldiroedd ers ychydig dros flwyddyn

Mae ei gwr, Chris, sy'n wreiddiol o Abertawe, yn beiriannydd meddalwedd llawrydd.

Mae Mr Williams wedi defnyddio'r hawliau rhyddid i symud ar draws yr Undeb i weithio mewn sawl gwlad Ewropeaidd gwahanol ac ar hyn o bryd mae'n chwilio am waith yng Ngwlad Belg.

Ond mae yna ddryswch ynglŷn a fydd pobl o Gymru a'r DU sy'n byw yn Ewrop yn parhau i gael y rhyddid i symud o amgylch yr Undeb ar ôl Brexit.

Mae grŵp o aelodau seneddol Ewropeaidd, gan gynnwys yr ASE Llafur Cymru Derek Vaughan ac ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Brexit Llywodraeth San Steffan, David Davis, yn gofyn am eglurhad.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth y byddant yn parhau i fynd i'r afael a'r mater yn y trafodaethau sydd i ddod.

'Goblygiadau i bawb'

Heb ryddid i symud, dywedodd Chris y byddai'r "cyfleoedd i weithio, ennill cyflog a chadw'r teulu i fynd wedi'u cyfyngu".

Mae Chris, Debbie a'u merch, Molly, yn dri o bump sydd wedi cyflwyno achos llys er mwyn ceisio diogelu eu hawliau fel dinasyddion yr Undeb ar ôl Brexit.

Ym mis Chwefror, roedd llys Yr Iseldiroedd wedi cytuno i gyfeirio eu hachos gerbron llys uchaf yr Undeb - Llys Cyfiawnder Ewrop (ECJ) - ond mae llywodraeth Yr Iseldiroedd wedi apelio, gyda'r gwrandawiad wedi ei drefnu ar gyfer 19 Ebrill.

Disgrifiad o’r llun,

Mae achos y teulu Williams wedi ei gyfeirio at Lys Cyfiawnder Ewrop

Dywedodd Debbie Williams fod cyfreithiau'r Undeb yn glir o ran "beth mae dinasyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd yn ei olygu wrth ymuno â'r Undeb, ond nid yw'n glir mewn cylchoedd cyfreithiol beth sy'n digwydd i'r ddinasyddiaeth hynny unwaith mae gwlad yn gadael".

"Fe allai fod goblygiadau i bawb yn y DU mewn gwirionedd a thu hwnt ac rwy'n credu ei fod yn achos pwysig," ychwanegodd.

Yn ddiweddar cafodd galwad Plaid Cymru i roi'r hawl i Brydeinwyr gadw eu dinasyddiaeth Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit ei chefnogi gan ASau yn Nhŷ'r Cyffredin heb bleidlais ond nid yw'r canlyniad yn gorfodi Llywodraeth y DU ymrwymo iddo.

Disgrifiad,

Mae yna "amheuaeth am y dyfodol" meddai Kelvin Williams

Mae wedi'i amcangyfrif bod tua 1.3 miliwn o Brydeinwyr yn byw mewn gwledydd eraill yr Undeb a thua 3.7 miliwn o ddinasyddion yr UE yn byw yn y DU.

Yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf, roedd tua 78,000 o ddinasyddion yr UE yn byw yng Nghymru yn 2016.

Mae Wiard Sterk, sy'n wreiddiol o'r Iseldiroedd, wedi byw yng Nghaerdydd ers 35 mlynedd.

"Mae gan fy mhlant basportau Prydeinig, mae gan fy ngwraig basport Prydeinig, mae gen i lawer o deulu yma - yn sydyn mae yna wahaniaeth rhyngom ni nad oedd byth yno o'r blaen," meddai.

'Bargeinio gyda'n hawliau'

Fel llefarydd dros Gymru ar gyfer y grŵp ymgyrchu 'the3million', nid yw wedi'i argyhoeddi am y cytundeb diweddaraf rhwng y DU a'r UE ar hawliau dinasyddion.

"Does dim wedi'i gytuno tan fod popeth wedi cael ei gytuno. Felly, ry'n ni dal yn teimlo ein bod nhw'n bargeinio gyda'n hawliau ni, ry'n ni dal i fod yn yr unfan.

"Fe allai eistedd yma'n dawel a dweud nad oes dim byd wedi newid eto, ond fe allai newid yn sydyn i gyd os nad ydyn nhw'n cyrraedd cytundeb.

"Mewn sawl fford, ry'n ni'n eithaf, ond fe fyddwn ni'n colli hawliau... Fe fydd yn dod yn fwy anodd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Wiard Sterk wedi byw yng Nghaerdydd ers 35 mlynedd

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Ymadael yr Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth y DU: "Sicrhau hawliau dinasyddion sydd wedi bod yn flaenoriaeth i ni o'r cychwyn yn y trafodaethau hyn.

"Ry'n ni wedi cyflawni ar yr ymrwymiad hwn, gan gyrraedd cytundeb a'r UE ar hawliau dinasyddion cyn i ni adael ac yn ystod y cyfnod trosglwyddo.

"Fe fydd hyn yn rhoi sicrwydd i unigolion a busnesau."