Ateb y Galw: Peter Rees, chwaraewr rygbi rhyngwladol hynaf Cymru

Y cyn-chwaraewr rygbi Peter Rees, sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan Ioan Hefin yr wythnos diwetha'. Mae Peter yn 93 oed, ac ef yw chwaraewr rygbi rhyngwladol hynaf Cymru.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi'n cofio mynd i Ysgol Penygroes, Sir Gâr a newid o drowsus byr i drowsus hir! A dwi hefyd yn cofio credu yn Siôn Corn a chwarae gyda beth roedd e wedi dod i fi, a theimlo trueni dros rai o'r bechgyn eraill oedd ddim yn credu, a bod Siôn Corn ddim yn dod i'w gweld nhw!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mynd o flaen y dosbarth yn yr ysgol pan o'n i tua 8 neu 9, am bo' fi wedi bod yn 'smygu, a chael y wialen gan yr ysgolfeistr - er ei fod e'n smoco fel trŵper ei hunan!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Dwi'n cofio cael fy mhigo gan bicwnen - daeth hwnnw â dagrau i'n llyged i.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

O'n i'n ysmygu pan o'n i'n grwt. Dwi'n cofio'r hen ŵr yn gofyn i mi brynu tybaco iddo a rhoi pishyn tair i mi - o'dd yn lot o arian bryd 'ny. Gyda'r pishyn tair, brynes i becyn o fatshys am hanner ceiniog, pecyn o Woodbine am ddwy geiniog, a loshin am ddime, a'u rhannu gyda fy ffrindie!

Ond dwi ddim yn smocio nawr. Nes i roi smocio lan yn gynnar iawn, gan mod i'n gwneud lot o athletau a rygbi ac edrych ar ôl fy nghorff. Dyna pam dwi dal 'ma heddi!

Disgrifiad o'r llun, Mae cael cip ar y môr bob amser yn codi gwên ar Peter, fel pan oedd yn dod ar dripiau ysgol Sul i Aberystwyth

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Amser o'n i'n byw ym Mhenygroes, o'n i'n mynd ar drip ysgol Sul - i lefydd fel Llangrannog, Aberystwyth, Cei Newydd, Dinbych-y-pysgod. Unwaith o'n i'n gweld y môr, o'n i'n jwmpo lan a lawr ar y bws.

Ac am y 60 mlynedd diwetha', fi 'di bod yn byw ym Mhen-bre, a phan dwi'n codi yn y bore y peth cynta' dwi'n dishgwl mas arno yw'r môr. Mae hynny'n hyfryd. Ac wrth gwrs, Parc y Scarlets!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Heddi, pan maen nhw'n pigo tîm Cymru, mae'r chwaraewyr yn gw'bod o flaen llaw. Ond y tro cyntaf i mi wybod mod i wedi cael fy mhigo i chwarae i ngwlad, o'n i ar y bws yn dod nôl o'r Hendy - roedd Y Tymbl wedi bod yn chwarae yn y gwpan. Pwy o'dd yn eistedd wrth f'ymyl oedd Ronnie (o Ryan a Ronnie) a'i dad.

Pan gyrhaeddodd y bws Y Tymbl, daeth un o fois y clwb mas a gweiddi i mewn drwy ddrws y bws: "Mae Peter Rees wedi cael ei gap!" Roedd e wedi clywed ar y radio, ond dyna'r cyntaf i mi glywed amdano. Es i gartre' ac yna i'r clwb ieuenctid â'n chest i'n stico mas!

Disgrifiad o'r llun, Enillodd Peter ddau gap dros Gymru yn 1947, yn erbyn Ffrainc ac Iwerddon. Cymru oedd yn fuddugol yn y ddwy gêm, wrth gwrs!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Hen ddyn lwcus!

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Dwi ddim yn ddarllenwr mawr iawn, ond dwi'n darllen y papur yn ddyddiol. Ond dwi'n darllen llyfrau hen chwaraewyr Cymru bob hyn a hyn hefyd.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Dwi'n cwrdd â'n ffrindie bob wythnos a ry'n ni'n cael glasied o win coch 'da'n gilydd. Dwi'n licio cymysgu â phobl, a dwi ddim yn colli gêm ym Mharc y Scarlets, felly dwi'n cwrdd â hen ffrindie fan'na, neu'n mynd i'r Clwb Bach ym Mhorth Tywyn.

O Archif Ateb y Galw:

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Does yna ddim llawer 'dyw pobl ddim yn ei wybod amdana i!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Parc y Scarlets yw'r lle i fynd yn dawel, yng nghanol ffrindie, yn rhoi trownsiad i'r Gweilch yn rhacs!

Ffynhonnell y llun, AFP

Disgrifiad o'r llun, Dyma'r lle y basai Peter yn hoffi treulio'i ddiwrnod olaf - yn ei gartref ysbrydol

Beth yw dy hoff gân a pham?

Sosban Fach, wrth gwrs! A dwi'n hoffi caneuon Dafydd Iwan hefyd.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Fi'n mwynhau llawer o lysiau. Mae ready meals yn handi iawn, ond dwi'n mwynhau cwcan yn fawr. Weithiau ffowlyn, ond weithiau ffesant neu gwningen - dwi'n hoffi experimentio! Ac i bwdin - pwdin reis, wrth gwrs.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Dwi'n hapus fel 'yn hunan - dwi ddim wedi g'neud yn rhy ffôl!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Stephen Jones