Â鶹ԼÅÄ

Yr actor Ioan Hefin sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma

  • Cyhoeddwyd
Ioan HefinFfynhonnell y llun, Ioan Hefin

Yr actor Ioan Hefin sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan .

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Symud o Heol Gwelfor i Derlwyn yn Mynyddygarreg. Tair mlwydd oed, a Sindy, y ci, yn chwalu fy hoff dedi bêr! 'Falle bod lluniau'r cyfnod wedi dylanwadu ar yr atgof, pwy a ŵyr - mae lluniau ac atgofion yn gymysg weithiau.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Fy ngwraig, wrth gwrs - mae'r ddau ohonom yn enedigol o'r un pentre' (ond yn ffan mawr o Debbie Harry hefyd!)

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Wel, nifer o bethau sy' tu hwnt i gyfraith a rheolau darlledu! Yn gyhoeddus? Dinistrio offer ar gwrs preswyl cerddoriaeth ieuenctid Sir Gâr. Damwain oedd y cyfan - ond y fi oedd yn gyfrifol.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Ddoe - gwrando ar 'A Normal Family' gan Henry Normal ar Radio 4.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes, wrth gwrs. Mae bywyd yn arbrawf o bwyso'r drwg yn erbyn y da.

Ffynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ioan Hefin yn troi'n Burt Lancaster pan mae'n cael cip ar Dal-y-llyn ger Corris

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Cwm Gwendraeth yw mro genedigol ac yn ardal sy'n anodd ei churo. Gweddill Cymru? Mae'r olygfa tuag at Tal-y-llyn yng Nghorris yn ysgogi rhyw ymateb mewnol sy'n anodd disgrifio. Dwi'n teimlo fel Burt Lancaster yn 'Local Hero' wrth dderbyn ystwyll!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Heno.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Cydwybodol. Agored. Twp.

O Archif Ateb y Galw:

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Hoff ffilm? Newid yn gyson! Hoff lyfr? 'Brave New World'.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Iesu/Muhammad - gofyn barn ar y byd o'n cwmpas yn 2018. Ai dyma oedd y weledigaeth?

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod

Wedi cadw gwenyn am saith mlynedd - ac wedi rhoi'r gorau iddi ar ôl datblygu alergedd.

Disgrifiad o’r llun,

Yn anffodus, mae'n rhaid i Ioan brynu ei fêl o'r siop y dyddiau yma...

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

'Tai Chi' wrth wrando ar yr adar.

Beth yw dy hoff gân a pham?

'Ne me quitte pas'. Pam? 'Sai'n siŵr - ond mae'n cyffwrdd.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf: Madarch a garlleg o'r ardd.

Ail gwrs: Cinio dydd Sul (heb y cig) â'r cynnyrch i gyd o'r ardd.

Pwdin: Unrhyw beth 'da chwrens duon.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Ateb hawdd - Alfred Russel Wallace. Un o fanteision gweithio fel actor yw gwireddu'r cyfle i gamu i sodlau arwyr. Alfred Russel Wallace yw'r arwr i fi.

Ffynhonnell y llun, Theatr na nÓg
Disgrifiad o’r llun,

Portreadodd Ioan y naturiaethwr Alfred Russel Wallace mewn cynhyrchiad gan Theatr na nÓg. Dylanwadodd waith Wallace (ar esblygiad drwy ddewisiad naturiol) ar waith Charles Darwin

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

(y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol).