Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Dyddgu Hywel

  • Cyhoeddwyd
Dyddgu HywelFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Chwaraewr rygbi Cymru, Dyddgu Hywel sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddi gael ei henwebu gan

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Dwi ddim yn siŵr os ydy o'n atgof byw, ynteu ailfyw y llun ydw i, ond cofio bod ar draeth Cricieth efo Dad, Mam, Es, Siw a Tryst (y teulu), yn chwarae golff. Ond y prif atgof yw fy mod i'n gwisgo trênyrs newydd Puma am y tro cyntaf, rhai gwyn a choch, a mod i efo obsesiwn am y trênyrs newydd 'ma - nhw oedd y peth gore erioed!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Sam Tân!

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dyddgu yn meddwl y byd o'i thrênyrs newydd ar draeth Cricieth ers talwm

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed

Mi wnaeth yna fachgen diethr gicio kebab allan o fy llaw yn Sesiwn Fawr Dolgellau flynyddoedd nôl fel jôc, felly mi wnes i yr un peth i'w pizza, ac mi laniodd y pizza ar do camperfan oedd yn digwydd gyrru heibio.

Y cwbl reit ddoniol tan i'r bachgen gerdded i mewn i fy nosbarth Dylunio a Thechnoleg cyntaf, yn fy swydd newydd fel athrawes ddechrau Medi ryw flwyddyn!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Wedi gorfod mynd i'r ysbyty yn dilyn anaf rygbi rhyw fis nôl, a gorfod disgwyl 30 awr am wely! (Roedd diffyg cwsg wedi fy ngwneud yn reit emosiynol!)

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Os oes gen i dipyn ar fy meddwl, fydda i ddim yn gwrando weithie pan ma' rhywun yn siarad efo fi. Ond dwi'n gweithio arno fo!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Tai Duon, Padog - fy nghartref lle ces i fy magu, wedi byw yno am 23 mlynedd, tan i mi symud i Gaerdydd gyda'r rygbi. Ffarm yng nghanol y wlad, mewn cymuned hapus a chlos - does unman yn debyg i gartref.

Mae cyfle i ddod adre o Gaerdydd yn ddihangfa o'r ddinas, yr unig le lle medraf roi switch off o'r rygbi a gwaith am benwythnos bach i ymlacio a mwynhau amser gyda'r teulu a hen ffrindiau ysgol.

Disgrifiad o’r llun,

Tybed yw Dyddgu dal yn ffansio Sam Tân ar ei newydd wedd?

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Hwn ydy'r cwestiwn anodda', achos ma' sawl noson yn aros yn y cof rhwng Steddfod, y Sioe Fawr a nosweithiau allan yn Llanrwst a Rhuthun ers talwm.

Ond, 'nai byth anghofio noson allan yn Llanrwst ryw nos Sul ar ôl gêm rygbi yn erbyn merched Blaenau - noson fawr! A chofio mynd i'r ysgol bore wedyn (ar ôl cysgu yn car), a'r dirprwy yn dotio ein bod ni yno mor fore i adolygu at arholiad oedd y diwrnod hwnnw (wedi mynd yn gynnar i gael forty winks ar y soffa ym mloc y chweched oeddwn i!)

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Newydd ofyn i Dad "Disgrifia fi mewn tri gair Dad" (heb ddweud wrtho bod hyn am fod yn gyhoeddus - dwi'm yn meddwl y bydde fo wedi bod mor hael!)

Hynaws, pwyllog a charedig.

Beth yw dy hoff lyfr?

Un llyfr sydd wedi aros yn y cof ydy Llyfr Mawr y Plant, yn enwedig stori Siôn Blewyn Coch.

Disgrifiad o’r llun,

Mae hanes y llwynog bach direidus wedi diddanu plant ers iddo ymddangos gyntaf yn Llyfr Mawr y Plant yn 1931

Byw neu farw gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Paned efo Nain Derlwyn. Nain wedi'i chladdu ers dros ddeg mlynedd bellach, ond fyddwn i wrth fy modd yn cael y cyfle i gael sgwrs unwaith eto a dweud fy hanes, yn enwedig ar y cae rygbi.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di a beth oeddet ti'n ei feddwl?

Es i i'r sinema ryw bythefnos yn ôl i weld Baby Driver, ffilm arbennig oedd yn fy nghadw ar flaen fy sedd (nid yw'r enw yn hudo felly, ond mae hi werth ei gweld).

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Gwahodd pawb (teulu, ffrindiau, cymdogion, criw rygbi a bar y dafarn leol) i Tai Duon a chael parti mawr yn y sied. Mi fydd un rheol - neb yn cael crïo. Ac mi geith Dyl Mei fod yn DJ.

Dy hoff albwm?

Caneuon Robat Arwyn.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?

1. Madarch garlleg mewn saws hufenog, gyda bara ffres, menyn Cymreig a halen Môn.

2. Stecen, sglodion a'r addurniadau i gyd, a halen Môn!

3. Crème brûlée.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Bod yn fi fy hun, ond mod i'n gallu chwarae unrhyw gân ar y piano, heb gopi. Mi fyddwn i wrth fy modd yn cael diwrnod fel hyn!!

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Yvonne Evans

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Efallai bod Dyddgu ddim yn gallu chwarae unrhyw gân ar y piano heb gopi, ond mae hi'n dalentog iawn ar y cae rygbi!