Â鶹ԼÅÄ

Isafbris alcohol: Rhybudd elusen am gyffuriau rhad

  • Cyhoeddwyd
HeroinFfynhonnell y llun, TEK IMAGE/SCIENCE PHOTO LIBRARY

Gallai codi pris alcohol arwain at rai pobl ddigartref yn canfod rhywbeth arall i fynd yn gaeth iddo, yn ôl elusen.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw gosod isafbris ar alcohol - rhywbeth mae Canolfan Huggard yn poeni allai arwain rhai pobl fregus tuag at gyffuriau rhad.

Fe wnaeth yr elusen ddigartrefedd ymateb wedi i lu heddlu gyhoeddi prisiau cyffuriau anghyfreithlon ar strydoedd de Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth fod y risg yn cael ei ystyried yn un isel.

'Dihangfa'

Yn ôl Llywodraeth Cymru fe allai'r camau i daclo goryfed arbed un bywyd yr wythnos a golygu bod 1,400 yn llai o bobl yn gorfod mynd i'r ysbyty bob blwyddyn.

Dydy gweinidogion ddim wedi penderfynu eto beth fydd yr isafbris, ond dan fformiwla 50c yr uned, byddai litr o fodca yn costio dros £20.

Fyddai can o seidr ddim yn cael costio llai na £1, a byddai potel o win yn gorfod costio o leiaf £4.69.

Ar hyn o bryd mae'r newidiadau arfaethedig yn cael eu hystyried yn y Cynulliad, ac os ydyn nhw'n cael eu cyflwyno fe allai'r rheolau newydd fod mewn grym erbyn haf 2019.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r isafbris yn effeithio ar archfarchnadoedd a siopau sydd â thrwydded i werthu alcohol

Mewn tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgor iechyd y Cynulliad, dywedodd Heddlu De Cymru fod rhai cyffuriau ar gael ar y stryd am £5-£10 y gram, gan gynnwys y cyffur Spice.

Roedden nhw'n dweud fod heroin ar gael am £10 am 0.1 gram, a bod crac cocên yn gwerthu am £15-£20 am 0.2 gram.

Dywedodd Richard Edwards, prif weithredwr Canolfan Huggard y gallai'r isafbris alcohol gael effaith bositif ar y cyfan ar iechyd cyhoeddus.

Ond rhybuddiodd y gallai hynny fod ar draul rhai o'r bobl fwyaf bregus wrth eu "gwthio nhw tuag at gyffuriau anghyfreithlon sydd yn rhad ac yn hawdd eu cael".

"Gallai codi prisiau yn unig, ar gyfer cyffur cyfreithiol fel alcohol, olygu newid un ddibyniaeth am un arall a chondemnio pobl i fywyd anobeithiol a disymud ar y strydoedd," meddai.

"Byddai isafbris alcohol yn golygu bod rhai pobl sy'n byw ar y stryd yn gorfod canfod rhagor o arian i fwydo'u dibyniaeth a lleihau faint maen nhw'n ymwneud â gwasanaethau digartrefedd hanfodol allai eu helpu nhw oddi ar y strydoedd yn barhaol.

"I eraill bydd yn golygu ildio i ddelwyr cyffuriau anghyfreithlon, yn cynnig dihangfa tymor byr o realiti ond ar gost hir dymor enfawr."

'Risg isel'

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y "risg fod cwsmeriaid yn troi at gyffuriau anghyfreithlon neu sylweddau seicoweithredol newydd o ganlyniad i gynnydd yn isafbris alcohol yn cael ei ystyried yn isel".

"Mae sylwedd anghyfreithlon neu sydd heb ei brofi yn amlwg yn wahanol o ran safon i yfed alcohol yn gyfreithlon, a does fawr ddim tystiolaeth o faint y math yna o ymddygiad," meddai llefarydd.

"Fodd bynnag, rydym yn deall y pryderon ac mae hyn yn rhywbeth rydyn ni'n edrych arno ymhellach gyda phanel cynghori Llywodraeth Cymru ar gamddefnyddio sylweddau, sydd wedi cytuno i edrych ar y mater."