Â鶹ԼÅÄ

Isafbris alcohol: Ysgrifennydd Iechyd yn amau pryderon Asda

  • Cyhoeddwyd
poteli o alcoholFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Gymru fabwysiadu polisi prisio ar gyfer alcohol erbyn haf 2019

Mae Ysgrifennydd Iechyd Cymru wedi dweud ei fod yn cymryd honiadau y byddai gosod isafbris ar alcohol yn golygu cost uchel i archfarchnadoedd "gyda phinsiad o halen".

Roedd Vaughan Gething yn ymateb i honiad gan Asda fod yr archfarchnad yn wynebu costau o fwy na £1m wrth baratoi ar gyfer newid eu system ar gyfer prisio alcohol yn yr Alban.

Wrth roi tystiolaeth i bwyllgor o ACau dywedodd Mr Gething fod Asda yn newid prisiau yn gyson ac yn y gorffennol wedi ymdopi'n iawn i newidiadau ym mhris treth ar nwyddau.

Bydd trefn o isafswm pris ar gyfer alcohol yn dod i rym yn yr Alban ym mis Mai, gyda Chymru yn bwriadu cyflwyno polisi tebyg yn haf 2019.

Mae disgwyl i Lywodraeth yr Alban osod isafbris o 50c am bob uned o alcohol - gyda'r nod o fynd i'r afael â goryfed, a thrwy hynny, leihau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd.

Dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi pennu pris eto, ond fe all hyn ddigwydd ar ôl i gasgliadau gwaith ymchwil ar ddata gael ei gyhoeddi ym mis Chwefror.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Vaughan Gething yn dweud nad yw amrywio prisiau yn rhywbeth newydd i archfarchnadoedd

Yn eu tystiolaeth ysgrifenedig i Bwyllgor Iechyd y Cynulliad, dywedodd Asda fod "costau sylweddol i fusnesau bach a mawr yng Nghymru... sy'n cael eu cysylltu gyda chyflwyno systemau newydd sy'n gysylltiedig â gosod isafbris".

"Fel awgrym o faint y costau hyn, mae'r gwaith o baratoi ein systemau prisio ar gyfer cyflwyno isafbris yn yr Alban wedi golygu cost o fwy na £1miliwn i Asda, ac wedi cymryd bron i dair blynedd," meddai'r archfarchnad.

Wrth gael ei holi gan ACau ddydd Iau dywedodd Mr Gething: "Byddwn yn awgrymu y dylwn gymryd sylwadau gan gwmnïau mawr fel Asda ac eraill, sy'n awgrymu fod yna gost enfawr i newid prisiau rhai nwyddau, gyda phinsiad o halen.

"Mae Asda eu hunain yn newid prisiau yn gyson - nid yw'n anodd iddyn nhw wneud hynny mewn siopau unigol neu ledled y wlad."

Mae Asda wedi cael cais am sylw yn sgil sylwadau Mr Gething.