Â鶹ԼÅÄ

Isafbris alcohol 'ddim am godi pris peint'

  • Cyhoeddwyd
alcohol

Cyn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Iechyd y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mercher, mae elusen Alcohol Concern Cymru wedi cyhoeddi ffigyrau sy'n awgrymu na fydd pris peint mewn tafarn yn codi o osod isafswm ar bris alcohol.

Fis diwethaf cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu cynlluniau i osod isafswm fel pris bob uned o alcohol. O dan y ddeddf newydd bydd uned o alcohol yn costio o leia' 50c.

Mae Llywodraeth Cymru a nifer fawr o sefydliadau meddygaeth ac iechyd cyhoeddus yn credu y bydd y mesur newydd yn lleihau troseddu ac yn achub bywydau.

Dros fisoedd Hydref a Thachwedd eleni mae Alcohol Concern Cymru wedi bod yn casglu gwybodaeth am brisiau diodydd gwahanol mewn tafarndai a siopau yng Nghaerdydd, ac mae'r canlyniadau'n dangos na fydd rhaid i dafarndai godi eu prisiau i gydymffurfio â'r ddeddf newydd.

Mewn tafarndai roedd seidr ar werth am £1.36 yr uned ar gyfartaledd, cwrw am £1.43 yr uned a gwin coch am £1.53 yr uned.

Ar y llaw arall roedd siopau yn gwerthu nifer o ddiodydd am lai na 50c yr uned gan gynnwys:

  • 70cl o fodca am £10.00 (38c yr uned);

  • 70cl o win cadarn am £2.99 (27c yr uned);

  • 3 litr o seidr cryf am £3.99 (18c yr uned).

'Hwb i dafarndai?'

Dywedodd cyfarwyddwr Alcohol Concern Cymru Andrew Misell: "Does ryfedd fod rhai tafarnwyr yn credu gallai'r isafbris fod yn hwb i dafarndai lleol.

"Yn ôl yn 2010, rhybuddiodd un o Bwyllgorau'r Cynulliad fod alcohol rhad yr archfarchnadoedd yn bygwth dyfodol tafarnau cymunedol. Pan holon ni dafarnwyr Cymru am osod isfabris o 50c yr uned, roedd 77% o'i blaid ac roedd 94% yn credu bod alcohol rhad yr archfarchnadoedd yn tanseilio eu busnes.

"Fydd yr isafbris ddim yn datrys holl broblemau pob tafarnwr dros nos, ond trwy gau'r bwlch rhwng prisiau'r dafarn a rhai'r siopau i raddau, bydd yn gorfodi cynhyrchwyr a gwerthwyr i gystadlu mwy ar safon y profiad gallan nhw ei gynnig, a llai ar bris.

"A dyna gyfle euraidd i'r tafarndai gorau fanteisio arno."