Enwau Cymraeg: Eich profiadau chi

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fe ofynnodd Cymru Fyw i'n darllenwyr rannu eich profiadau o bobl yn ynganu eich enw Cymraeg yn anghywir - ac wnaethoch chi ddim siomi...

Ar ddiwrnod cynta'r brifysgol, rwy'n cofio'r darlithwr yn galw allan rhestr o enwau. Roedd o'n iawn gyda enwau erill o bob ban byd, ond "Miriam.... Welsh surname" gefish i 'ngalw!! Dwi dal mewn syndod tair mlynedd wedyn!

- Miriam Dafydd, Conwy/Manceinion

Ers byw yn Lloegr dwi wedi darganfod bod y mwyafrif o bobl yn methu deall fy enw cyntaf. Dwi'n cofio darlithydd yn y brifysgol yn mynnu fy ngalw'n "Ingrid" yn ystod y tair mlynedd!

Yn gwaith fel hyfforddwraig ffitrwydd mae'n haws bod pawb yn fy adnabod fel Hari. Fy ail enw ydy Rhiannon ac mae rhai yn gallu ymdopi ychydig yn well gydag hynny oherwydd y gân gan Fleetwood Mac!

- Angharad Payne, Grantham

Mae sawl person o hyd yn meddwl bod yna ddwy 'l' yn "Elen" ac yn dweud ei fod yn od mai dim ond un sydd genna i. Mae llawer wedi dweud imi newid y 'Mair' i 'Mary' er mwyn ei wneud yn haws i'r bobl di-Gymraeg.

- Elen-Mair, Ynys Môn

Dwi o hyd yn cael trafferth gyda fy enw yn Llundain, gan gynnwys ychydig o bobl haerllug sydd yn rhannu'u barn onest i mi am yr iaith Gymraeg. Mae'n gyfle i mi rannu fy mhrofiadau fel Cymraes a diwylliant Cymru efo pobl ddieithr. Dydw i erioed wedi bod mor falch i ddod o Gymru.

- Mabli Tudur, Llundain

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Dwi 'di bod yn Norwy ers 2014 yn gweithio fel organydd i'r Den Norske Kirke (Eglwys Norwyaidd) ac yn athro cerdd.

Yn y byd cerdd ma' enw unigryw yn fanteisiol iawn. Ond ar y llaw arall, dwi 'di darganfod bod y rhan fwyaf o ieithoedd y byd ddim yn gyfforddus efo'r llythyren 'r' cyn 'f'. Felly dwi'n cael Afron rhan fwyaf o'r amser.

Amrywiadau eraill dwi'n cael ydy: Arson, Avon, Aron, Arfan, Afran, Aslan...

- Arfon Owen, Stavanger, Norwy

Wedi cael sawl enw dros y blynyddoedd. Yn yr ysgol wedi cael fy ngalw ar y gofrestr gan fy ail enw Tudur a'r athrawes yn meddwl fy mod i'n fachgen!

Wedi cael fy ngalw yn 'Simon' ac hyd yn oed wedi cael person dros y ffôn yn gofyn os yr oeddwn yn Tsieiniaidd ac yn meddwl mai 'C Wan' oedd fy enw!

Pwynt arall yw 'Siwan' rydych chi'n ei ddweud nid 'Shiwan' fel mae sawl person yn ei ddweud - nid oes 'h' yn fy enw? Cywir? Cywir.

- Siwan Tudur, Llanfairpwllgwyngyll

Roedd 'na sgwrs ddifyr ar ein tudalen Facebook hefyd...

I osgoi neges Facebook

Mae’n flin gennym ein bod yn cael trafferth dangos y post hwn.

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

Diwedd neges Facebook

Nia = N / A (not applicable) wrth lenwi ffurflen i fewn yn Llundain. Dychmygwch y sgwrs a ddilynodd!!

- Nia Keinor Jenkins ar Facebook

Wedi cael lot o hwyl - cael fy ngalw yn "Sainon", "Kenon" ac wrth gwrs "Conan" ac unwaith gofynnodd rhywun "are you a real Canon in the church?"

Pan bydd rhywun yn gofyn sut i ynganu fy enw mi fyddai yn dweud: "It's easy: J-O-N-E-S"

- Cynan Jones, Beddgelert

Anwylaf fam fy anwylaf gyn-ŵr. 'Cynanide'. A dwi'n reit siŵr ei bod hi'n dalld yn iawn er ei bod hi'n honni nad oedd hi ddim...

- Sioned Webb ar Facebook

Rwyf yn cofio gadael am Seland Newydd yn 1963 ar long o'r enw SS Northern Star - pedwar o hogia yn shario cabin bychan yn pen blaen yn waelod y gwch am bron i chwe wythnos am ei bod hi wedi torri i lawr yn Durban. Un o'r hogia o Lerpwl ddywedodd bod fy enw yn rhy galed i'w ddweud a dymunodd fy ngalw'n "Taffy" a dyna beth mae pawb yn fy ngalw i fwy na hanner canrif ers i mi lanio yma.

- Alwyn Parry, Seland Newydd

Ffynhonnell y llun, Matthew Lewis/Getty Images

Disgrifiad o'r llun, "Rhydian, as in the singer??"

Fedrai ddim deud fod fy enw wedi bod yn rhwystr yn ystod fy ngyrfa. Ond o weithio yn y maes dwi ynddo (gweithio mewn gwesty) ac yn delio gyda phobl o bob cwr o'r byd, mae treulio lleiafswm o bum munud yn gorfod esbonio sawl peth megis sut i ynganu'r enw, nad oes yna fersiwn Saesneg o'r enw mewn gwirionedd ymysg y mwyaf cyffredin - hyn i gyd cyn iddyn nhw sylweddoli fod genai yr un enw â'r canwr a ddaeth i enwogrwydd ar yr X-Factor ac felly yn ceisio fy nghywiro i ar fy enw yn y lle cyntaf! O ran gyrfa, fedrai ddim galw'r enw yn rhwystr, ond fwy yn fater o rwystredigaeth wedi'r canfed tro?!

- Rhydian Morgan, Llan Ffestiniog

Eye-slit.

- Esyllt Glyn Jones ar Facebook

Hefyd o ddiddordeb