Â鶹ԼÅÄ

Enwau anarferol ar blant

  • Cyhoeddwyd
plant

Yn 2016, Dylan oedd yr enw Cymreig mwyaf poblogaidd ar fechgyn yng Nghymru ac Erin oedd yr enw mwyaf poblogaidd ar ferched. Ond beth am yr enwau Cymreig lleiaf poblogaidd?

Mae Cymru Fyw wedi bod yn edrych ar restrau'r Swyddfa Ystadegau (ONS) i ganfod yr enwau Cymraeg lleiaf cyffredin yn 2016. Mae 'na ambell i enw annisgwyl yno!

Dyma'r rhestrau (gyda nifer y plant a gafodd yr enw mewn cromfachau):

Enwau lleiaf cyffredin ar ferched yn 2016 (yn nhrefn yr wyddor):

  • Aderyn (3)

  • Awel (4)

  • Begw (4)

  • Ceri (3)

  • Dona (3)

  • Eirwen (4)

  • Elain (3)

  • Elenid (3)

  • Enlli (3)

  • Eos (4)

  • Fflur (4)

  • Gladys (4)

  • Gwenan (3)

  • Lili-Mai (3)

  • Lona (3)

  • Madlen (3)

  • Mati (3)

  • Meri (4)

  • Nesta (3)

  • Non (3)

  • Rhianwen (3)

  • Saran (4)

  • Seren-Rose (4)

  • Siwan (4)

  • Swyn (4)

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r awdures a cherddor Fflur Dafydd yn enw cyfarwydd

Mae'r enw Ceri yn llawer llai cyffredin nag yr oedd yn y gorffennol - yn 1997 cafodd 91 o ferched eu henwi'n Ceri, ond erbyn 2016 dim ond tair oedd.

Efallai ei bod yn syndod hefyd gweld enwau cyfarwydd fel Siwan, Gwenan a Fflur yn y rhestr. Ond, maen nhw'n parhau'n enwau cyffredin yn y boblogaeth drwyddi draw.

Yn 2001 roedd 16 babi wedi ei enwi'n Siwan, yn 2013 roedd 10 Fflur, ac yn 2008 roedd 12 Gwenan.

Efallai fod yr enw Aderyn yn llai cyfarwydd, ond ers y flwyddyn 2000 mae o leiaf 36 merch fach wedi eu henwi yn Aderyn.

Mae rhai o'r enwau yn y rhestr uchod yn fersiynau byrrach o enwau hirach fel Madlen (Magdalen), Lona (Maelona) a Gladys (Gwladys/Gwladus).

Beth am y bechgyn felly?

Enwau lleiaf cyffredin ar fechgyn yn 2016 (yn nhrefn yr wyddor):

  • Alun (3)

  • Alwyn (3)

  • Bevan (4)

  • Bleddyn (4)

  • Cadan (4)

  • Caerwyn (3)

  • Calon (3)

  • Cellan (4)

  • Cynan (4)

  • Deian (4)

  • Deiniol (3)

  • Elai (4)

  • Gwyn (3)

  • Lleu (4)

  • Math (4)

  • Osian-Lee (3)

  • Rheon (4)

  • Rhion (4)

  • Rhun (3)

  • Seren (3)

  • Teifion (3)

  • Tudur (3)

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol / S4C
Disgrifiad o’r llun,

Tudur Owen, un o'r Tuduriaid enwog!

Mae'r enw Bevan yn deillio o ab-Evan, neu mab Evan.

Mae Cadan yn enw Cymraeg ac yn dod o'r gair 'cad' am frwydr (e.e. 'ar flaen y gad'). Ond, mae'r sillafiad Caden yn llawer mwy poblogaidd (66 o blant).

Mae yn enw ar bentref yng Ngheredigion, ac mae'r enw i'w glywed yn aml ar newyddion y Â鶹ԼÅÄ pan fo Rory Cellan Jones yn gohebu - enw a gafodd gan ei dad, James Cellan Jones o Abertawe.

Mae Seren yn enw ar ferch neu fachgen - ac er bod Seren yn un o'r enwau mwyaf poblogaidd i ferched, dim ond tri bachgen gafodd yr enw yn 2016.

Mae'r enwau Math a Lleu yn ymddangos yn chwedlau'r Mabinogi - Math fab Mathonwy a Lleu Llaw Gyffes.

Mwy o fanylion...

Mae'r rhestrau uchod yn cynnwys enwau cyntaf plant gafodd eu geni yng Nghymru a Lloegr yn 2016.

Er mwyn diogelu cyfrinachedd unigolion, dydy Swyddfa'r Ystadegau ddim yn rhyddhau gwybodaeth pan fo dim ond un neu ddau o blant wedi derbyn enw penodol.