鶹Լ

To bach: Pam a phryd?

  • Cyhoeddwyd
Enghreiffitiau o 'doeau bach diangen'Ffynhonnell y llun, Geraint Lovgreen/Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Rhai enghreifftiau o doeau bach diangen mae Geraint Lovgreen wedi eu casglu

Un sy'n cynhyrfu pan mae'n gweld to bach yn y lle anghywir ydy'r canwr, cyfansoddwr a'r cyfieithydd Geraint Lovgreen.

Mae'n casglu lluniau o'r acen yn cael ei defnyddio'n ddiangen ar arwyddion a phosteri drwy Gymru.

Fe ofynnon ni iddo fo sut ar wyneb daear mae gwybod pryd i roi to bach a phryd i beidio?

Toeau bach... mi ddylai fod yn syml, yn 'dylai? Llafariad hir = to bach, byr = dim to bach. Ond dydi hi ddim mor hawdd â hynny.

Er enghraifft, 'to bach' - mae 'to' a 'bach' yn hir. Ond os nad oes cytsain ar ddiwedd gair mae'r llafariad bob amser yn hir, felly does dim eisiau to bach ar 'to', na geiriau fel 'da' a 'sw'.

Ond mae 'na eithriadau i hyn hefyd, sef 'tŷ' (achos byddai 'dy dŷ' yn edrych yn od heb y to bach), 'iâ' (i ddangos nad gogleddwr yn dweud 'ie' sydd yma) ac 'â' (with) yn hytrach nag 'a' (and).

O flaen n, l ac r

Yn draddodiadol, dim ond o flaen n, l ac r mae angen to bach, dim ond ar a, e, o, w, ac y (mi ddown ni at i ac u mewn munud), a dim ond mewn geiriau unsill. Mae'r pum llafariad yna'n fyr fel arfer - e.e. llan, pen, hon, hwn, byr.

Felly mae angen to bach ar bob a, e, o, w, neu y hir o flaen n, l neu r, e.e. cân, llên, lôn, cŵn, cŷn.

Ond - i gymhlethu pethau, mae dau air cyffredin sy'n torri'r rheol yma am ryw reswm, sef 'hen' a 'dyn'. Felly 'hen ddyn', nid 'hên ddŷn'.

Mae i ac u yn hir bob amser ac felly does dim angen to bach, e.e. min, hil, sir, llun, cul, pur.

Y cytseiniaid eraill

Fel egwyddor cyffredinol does dim angen to bach o flaen b, ch, d, dd, f, ff, g, ll, s a th achos mae'r llafariad bob amser yn hir - e.e. mab, bach, tad, lladd, cof, rhaff, mwg, holl, nos, cath. Ac mae geiriau sy'n gorffen efo m bob amser yn fyr, fel mam, cam (ond bydd angen to bach ar eiriau sydd wedi'u benthyg o'r Saesneg, fel gêm).

Geiriau benthyg

Disgrifiad o’r llun,

Sut fydden ni'n gwahaniaethu rhwng mwg a mwg heb do bach?

Mae geiriau benthyg yn tueddu i ddrysu'r system, fel y gair Saesneg 'mug' - sut mae gwahaniaethu rhwng 'mwg' (mug) a 'mwg' (smoke)? A'r un fath efo 'pin' (pin) a 'pin' (pine). Felly tueddwn i ysgrifennu 'coed pîn', a 'mŵg', er mai 'coed pin' a 'mwg' sy'n dechnegol gywir (ac acen ddisgynedig ar y geiriau byr 'pìn' a 'mẁg' - ond stori arall ydi honno).

O'r Saesneg y daw pob gair sy'n gorffen efo c, p a t, ac felly mae angen to bach i wahaniaethu rhwng geiriau fel 'smoc' (dilledyn) a 'smôc' (fel yn 'mynd allan am smôc') neu 'tap' (dŵr) a 'tâp' (mesur). Ac os ydych chi am Gymreigio gair fel Coke mae'r to bach yn reit bwysig.

Geiriau â mwy nag un sillaf

Yn gyffredinol, dim ond mewn geiriau unsill y mae angen to bach. Ond weithiau bydd ei angen ar ddiwedd gair hirach i ddangos bod y sillaf olaf yn hir - e.e. 'caniatâd', 'promenâd'. (Ond os mai llafariad sydd ar ddiwedd y gair, acen ddyrchafedig ydi'r rheol, e.e. 'caniatáu', 'gwacáu'.)

Syml, dydi? Wel, nach'di. Ond gall cofio'r pedair "rheol" sylfaenol yma helpu:

  • O flaen n, l ac r - to bach os ydi'r llafariad yn hir

  • Y cytseiniaid eraill - dim to bach

  • Dim cytsain ar y diwedd - dim to bach

  • Geiriau benthyg - to bach os ydi'r llafariad yn hir

Disgrifiad,

Geraint Lovgreen yn trafod y to bach ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru