Â鶹ԼÅÄ

Athrawon llanw'n 'rhoi'r gorau iddi oherwydd tâl gwael'

  • Cyhoeddwyd
Athro

Mae ymgyrchwyr wedi rhybuddio bod athrawon cyflenwi yn gorfod chwilio am swyddi ychwanegol er mwyn cadw dau ben llinyn ynghyd, ac mae llawer yn ystyried gadael yr alwedigaeth.

Maen nhw hefyd yn dweud bod cyflogi athrawon drwy asiantaethau wedi arwain at gyflogau is a thelerau gwael.

Mae tua 4,500 o athrawon cyflenwi yng Nghymru, sy'n gyfrifol am gymryd dosbarthiadau yn sgil absenoldeb oherwydd salwch neu ddatblygiad proffesiynol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "athrawon cyflenwi yn ran gwerthfawr o'r llu gwaith mewn ysgolion", ac nad oes unrhyw beth "i rwystro ysgolion rhag cyflogi athrawon cyflenwi yn uniongyrchol.

'Colli hyder'

Mae Plaid Cymru'n honni bod "dwsinau o athrawon cyflenwi sydd wedi diflasu a cholli hyder" wedi cysylltu â nhw.

Yn ôl y blaid, dywedodd un athrawes wrthyn nhw mai dim ond drwy asiantaeth oedd hi'n gallu dod o hyd i waith yn Sir Ddinbych, ac roedd ei chyflog o'r herwydd yn syrthio o £115 i £85 y dydd.

"Mae un arall yn ystyried rhoi'r gorau i swydd mae wedi bod yn ei wneud ers 18 mlynedd oherwydd y toriad drastig mewn cyflog a'r diffyg datblygu personol a thaliadau pensiwn," meddai'r blaid.

"Beth oedd o'i le gyda'r system flaenorol ble roedd ysgolion yn medru cysylltu â staff cyflenwi yn uniongyrchol a thalu'r athrawon yn iawn, heb fod rhywun yn cymryd mantais?"

Profiad un athro

Buodd Pedr McMullen yn bennaeth ysgol yn Sir Benfro, ac yn fwy diweddar roedd yn gwneud rhywfaint o waith llanw drwy asiantaeth.

"Yn fy ysgol i, ro'n i'n gwybod bod 'na dri neu bedwar person ar gael yn yr ardal ag o'n i'n ffonio nhw fy hun," meddai.

Ond ar ôl cofrestru gydag asiantaeth i wneud gwaith llanw yn fwy diweddar, doedd e ddim yn hapus gyda'r profiad ac fe adawodd y cwmni.

Dywedodd bod yn well gyda rhai o'r ysgolion y buodd e'n gweithio gyda nhw fynd drwy asiantaeth.

"Wy'n gwybod bod dwy ysgol wedi dweud... bod nhw'n fwy hapus yn ffonio'r asiantaeth... dydw i ddim yn gwybod beth yw'r system ond mae'n debyg bod e'n haws."

Disgrifiad o’r llun,

Doedd Pedr McMullen ddim yn fodlon gyda'r profiad gafodd e gydag asiantaeth cyflenwi

Yn ôl yr asiantaeth sy'n cael ei ffafrio gan 22 awdurdod lleol Cymru, maen nhw'n cael gwaith cyson i athrawon llanw.

Dywedodd Neil Roberts o New Directions ei fod yn deall pryderon athrawon, ond "unwaith maen nhw'n gweithio gyda'r cwmnïau, maen nhw'n sylweddoli bod y gefnogaeth sydd ar gael yn eu helpu ar y ffordd i ddysgu".

"Mae 'na bethau fel agreed payments, ac mae 'na bonuses sy'n gallu eu cael, ond yr ysgolion sy'n gyfrifol am benderfynu beth ydy cyflogau'r athrawon," meddai.

Roedd yr asiantaeth yn gwadu eu bod nhw'n cymryd 30-40% o'r cyflog eu hunain.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Neil Roberts o asiantaeth cyflenwi New Directions, mae cefnogaeth ar gael i athrawon

Yn ôl Plaid Cymru, mae'r llywodraeth yn "llusgo'u traed" wrth geisio dod i'r afael â'r sefyllfa, a bod dwy flynedd wedi pasio ers i un o bwyllgorau'r Cynulliad argymell cydlynu'r ffordd mae awdurdodau'n trin athrawon cyflenwi - cynllun tebyg i'r un sydd eisoes ar waith yng Ngogledd Iwerddon.

Maen nhw'n dweud hefyd y bydd angen mwy o athrawon llanw dros y blynyddoedd nesaf wrth i athrawon adael yr ystafell ddosbarth i dderbyn hyfforddiant ar gyfer y diwygiadau mawr sydd ar y gweill.

'Dim cydnabyddiaeth'

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar Addysg, Darren Millar fod "sawl adroddiad wedi nodi problemau gyda threfn athrawon cyflenwi".

"Mae athrawon cyflenwi'n chwarae rhan bwysig iawn yn ein hysgolion ni.

"Rhaid iddyn nhw gael y gydnabyddiaeth iawn am y rôl a chael mynediad i'r hyfforddiant a'r gefnogaeth angenrheidiol.

"Y tristwch yw nad yw'r gydnabyddiaeth na'r gefnogaeth yna, ac o ganlyniad, dydy athrawon cyflenwi ddim yn cael eu gwerthfawrogi.

"Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys i fynd i'r afael a'r mater hwn."

Athrawon cyflenwi yn 'werthfawr'

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "athrawon cyflenwi yn ran gwerthfawr o'r llu gwaith mewn ysgolion", ac nad oes unrhyw beth "i rwystro ysgolion rhag cyflogi athrawon cyflenwi yn uniongyrchol.

Ychwanegodd llefarydd: "Fe ddaeth adroddiad annibynnol i'r casgliad yn gynharach eleni fod yna le i wella gyda'r model athrawon cyflenwi.

"Rydyn ni'n archwilio'r casgliadau ac yn gweithio'n agos gydag athrawon a'r undebau i geisio llunio cynigion fyddai'n arwain at weithredu'r argymhellion."