Â鶹ԼÅÄ

'Angen i ysgolion reoli absenoldeb athrawon yn well'

  • Cyhoeddwyd
absenoldeb athrawon

Mae gormod o ysgolion cynradd yng Nghymru yn methu â rheoli effaith absenoldeb athrawon o'r gwaith, yn ôl Estyn, y corff sy'n arolygu ysgolion yng Nghymru.

Dim ond lleiafrif o ysgolion cynradd, medd yr adroddiad, sy'n defnyddio arweiniad Llywodraeth Cymru a all eu helpu i reoli effaith absenoldeb athrawon yn well.

Yn ei adroddiad, mae Estyn yn dweud fod bron pob ysgol gynradd wedi wynebu problemau wrth drefnu rhywun addas i gyflenwi yn lle athrawon sy'n absennol.

Canfuwyd bod ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn arbennig, yn cael problemau cyflenwi staff.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd argymhellion Estyn yn cael eu hystyried fel rhan o gyngor newydd a'i fod eisiau lledaenu arfer da sydd mewn nifer o ysgolion ar draws y wlad.

Disgrifiad o’r llun,

'Angen i ysgolion cynradd arfarnu effaith abesenoldeb athrawon', meddai Meilyr Rowlands, prif arolygydd Estyn

Dywedodd Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd Estyn: "Mae angen i ysgolion cynradd wneud yn siŵr eu bod yn arfarnu effaith absenoldeb athrawon.

"Gall monitro ac olrhain y rhesymau dros absenoldeb athrawon helpu i godi ymwybyddiaeth am effaith posibl absenoldeb ar ddysgwyr.

"Dylen nhw hefyd fonitro gwaith athrawon cyflenwi yn rheolaidd i sicrhau bod disgyblion yn gwneud cynnydd priodol."

Cynllunio gwersi

Daeth arolygwyr ym mwyafrif yr ysgolion i'r casgliad fod athrawon cyflenwi yn defnyddio dogfennau'r ysgol i gynllunio gwersi.

Os nad oes gwybodaeth ar gael i athrawon cyflenwi, y tuedd yw i gadw plant yn brysur, yn hytrach na chynllunio gwersi sy'n adeiladu ar wybodaeth a medrau disgyblion.

Mae dogfen arweiniad Llywodraeth Cymru yn bodoli ers Gorffennaf 2015, ond er bod y rhan fwyaf o benaethiaid yn ymwybodol ohoni, dywedodd Estyn mai dim ond nifer fechan sydd wedi darllen a gweithredu'r argymhellion.

Yn 2013, daeth adroddiadau gan Estyn a Swyddfa Archwilio Cymru i'r casgliad fod defnydd cynyddol athrawon cyflenwi yn effeithio ar addysg plant.

Yr adeg hynny, roedd 10% o wersi yng ngofal athrawon cyflenwi. Ar gyfartaledd roedd pob athro yng Nghymru yn absennol am saith diwrnod y flwyddyn - hynny i gymharu â 4.5 diwrnod yn Lloegr.

Asiantaeth

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Llyr Gruffydd, llefarydd addysg Plaid Cymru, ar raglen fod angen creu asiantaeth i wella'r ddarpariaeth.

"Yr hyn roedd Plaid Cymru yn ei gynnig yn ein maniffesto nôl ym mis Mai oedd creu asiantaeth gydweithredol genedlaethol ar gyfer athrawon cyflenwi, fyddai'n sichrau gwell darpariaeth a mwy o gysondeb.," meddai.

"Fe fyddai'r athrawon cyflenwi yn cael yr un hyfforddiant wedyn ag athrawon parhaol, ac yn cyrraedd yr un safonau dysgu ag athrawon dosbarth.

"Mi fydden nhw hefyd yn cael mynediad i'r un cyfleoedd datblygu proffesiynol a'r un rheoli perfformiad - bach iawn o adborth mae athrawon cyflenwi yn ei gael ar ôl bod mewn ysgol, yn ôl adroddiad Estyn."

Heriau

Dywedodd Darren Millar AC, llefarydd y Ceidwadwyr ar Addysg: "Mae'r adroddiad hwn yn dystiolaeth bellach o'r heriau sy'n wynebu ysgolion Cymru mewn hinsawdd lle nad oes digon o athrawon yn cael eu recriwtio, ac mae llawer gormod yn rhoi'r gorau i'r proffesiwn.

"Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw sicrhau fod penaethiaid ysgolion yn cael y canllawiau ar staff cyflenwi.

"O gofio fod Llywodraeth Lafur Cymru yn gwario cymaint o filiynau o arian trethdalwyr ar gyfathrebu, mae'n achos rhwystredigaeth gweld fod cyn lleied o ysgolion wedi dilyn y cyngor hwn."

Ystyried argymhellion

Dywedodd llefarydd ar gyfer Llywodraeth Cymru y bydd argymhellion Estyn "yn cael ei ystyried fel rhan o gyngor newydd rydym yn bwriadu cyhoeddi yn ddiweddarach yn y tymor.

"Mae arfer da yn bodoli yn nifer o'n hysgolion ac mi ydyn ni eisiau gwneud yn siŵr mai dyma yw'r safon ar draws Cymru. Fe fyddwn ni'n parhau i weithio gydag arweinwyr ysgol er mwyn rheoli effaith absenoldeb athrawon yn effeithiol."