Â鶹ԼÅÄ

Newidiadau i'r drefn o gyflogi athrawon cyflenwi

  • Cyhoeddwyd
Athrawon cyflenwi

Cafodd newidiadau arfaethedig i'r modd mae athrawon cyflenwi'n cael eu cyflogi yng Nghymru eu cyhoeddi ddydd Iau.

Mae'n ganlyniad i dasglu gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2016 i ystyried materion sy'n ymwneud ag athrawon cyflenwi.

Fe gafodd cymhlethdodau ac amrywiadau o ran sut y mae athrawon cyflenwi yn cael eu cyflogi eu hystyried gan y tasglu.

Mae undebau athrawon a phenaethiaid ysgolion wedi mynegi pryderon am anghysonderau o fewn y maes ers peth amser.

Mae'r argymhellion yn yr adroddiad yn cynnwys:

  • Gwella'r data sy'n cael ei gasglu am athrawon cyflenwi, fel ei fod yn fwy cywir

  • Cynnal dadansoddiad llawn i fesur gwir gost darparu athrawon cyflenwi

  • Ystyried y telerau a'r amodau ar gyfer athrawon cyflenwi fel rhan o gynigion ehangach i ddatganoli cyflogau ac amodau athrawon i Gymru

  • Codi ymwybyddiaeth ymhlith cyflogwyr o ran y cyfrifoldebau sydd arnynt mewn perthynas â threfniadau diogelu a diweddaru'r canllawiau ar gyfer y gweithlu

  • Ystyried rheoleiddio ansawdd asiantaethau cyflenwi masnachol drwy gyflwyno cyfres o safonau ansawdd gofynnol y dylai'r holl asiantaethau masnachol eu bodloni.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Kirsty Williams yn derbyn bod lle i wella, er mwyn sicrhau y gall athrawon cyflenwi fanteisio ar gyfleodd datblygu a chefnogi maes addysg yn ehangach

Cafodd y rhan fwyaf o'r argymhellion eu derbyn gan Lywodraeth Cymru, er y bydd gwaith polisi a chyfreithiol pellach yn digwydd er mwyn penderfynu a oes modd cyflawni'r holl argymhellion.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams: "Mae athrawon cyflenwi yn rhan bwysig o'r gweithlu athrawon ac rwyf am sicrhau y gallan nhw fanteisio ar gyfleoedd datblygu proffesiynol, ac y gallan nhw gefnogi ein diwygiadau ehangach ym maes addysg.

"Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad bod lle amlwg i wella yn y ffordd rydym yn cyflogi athrawon cyflenwi, ac wrth reoli a chefnogi'r broses o'u darparu nhw ar gyfer ein hysgolion.

"Er fy mod yn derbyn argymhellion yr adroddiad ar hyn o bryd, mae rhai ohonynt yn codi materion cyfreithiol cymhleth y bydd angen i ni eu hystyried ymhellach. Bellach, byddwn yn dechrau'r broses hon, gan weithio'n agos gyda chynghorau, ysgolion, y gweithlu addysg, undebau ac eraill.

"Bydd rhaid i unrhyw newidiadau gyd-fynd â'n cenhadaeth genedlaethol i godi safonau ac ehangu cyfleoedd i'n pobl ifanc i gyd."

'Cam i'r cyfeiriad cywir'

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Chris Keates, Ysgrifennydd Cyffredinol undeb yr NASUWT: "Mae'r cadarnhad yn yr adroddiad y dylai athrawon cyflenwi gael disgwyl tâl ac amodau sy'n cyd-fynd a'u statws fel athro wedi cymhwyso, a'u bod yn rhydd i barhau i ddewis bod yn athrawon cyflenwi, i'w groesawu.

"Serch hynny, mae'r adroddiad i'w weld yn dawel ar fater darparu mynediad i athrawon cyflenwi i gynllun pensiwn athrawon."

Ychwanegodd Rex Phillips, Swyddog NASUWT yng Nghymru: "Mae'r adroddiad yn gam i'r cyfeiriad cywir yn nhermau graddau cyflogau athrawon cyflenwi, ac mae'n cydnabod llawer o'r anhawsterau sy'n wynebu athrawon cyflenwi yng Nghymru.

"Wrth nodi fod Ysgrifennydd addysg y Cabinet wedi derbyn yn syth y rhan fwyaf o argymhellion yr adroddiad, mae'r NASUWT yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a chyflogwyr i gael cytundeb ar driniaeth deg yn ogystal â thermau ac amodau priodol i athrawon cyflenwi yng Nghymru."